S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Darganfod anturiaethau newydd bob dydd wrth bori drwy ap newydd Byd Cyw

17 Mai 2017

 Mae Cyw wedi lansio ap newydd lliwgar a dyfeisgar, gyda hwyl, gemau, straeon a chaneuon a fydd yn difyrru plant bach am oriau.

Mae'r ap newydd Byd Cyw yn cael ei lansio heddiw (Mercher 17 Mai 2017) ac ar gael am ddim NAWR o'r App Store neu Google Play.

Sêr yr ap yw'r cymeriadau bach hoffus sydd wrth galon gwasanaeth Cyw; sef Llew, Bolgi, Jangl, Deryn, Plwm a Cyw ei hun, wrth gwrs.

Byd lliwgar Cyw yw canolbwynt yr ap ac mae'n cynnwys nifer o feysydd chwarae gwahanol ble mae modd chwilota a chwarae yng nghwmni Cyw a'i ffrindiau. Ym mhob maes chwarae mae gweithgaredd arbennig sy'n caniatáu i blant dyfu blodau, llysiau a ffrwythau yng ngardd Cyw, bwydo Bolgi gyda chynnyrch o'r ardd, trefnu blodau a chwarae pêl gyda Llew a chanu a gwrando ar stori amser gwely gyda Cyw.

Gyda phob gweithgaredd, mae'r plant yn derbyn gwobrau ac yn datgloi nodweddion ychwanegol. Bydd llawer rhagor o weithgareddau, a meysydd chwarae newydd, yn cael eu hychwanegu tamaid ar y tro yn ystod y flwyddyn gan ddatgelu rhagor o ryfeddodau Byd Cyw.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Cyfarwyddwr Cynnwys Plant S4C, "Mae pob gweithgaredd sydd ar yr ap yn annog plant i chwarae a dysgu. Mae’n addas ar gyfer plant sy'n rhugl neu ddim mor hyderus yn y Gymraeg, gan ddysgu ac elwa o fwynhad byd Cyw yn yr iaith. Mae'r ap yn rhyngweithiol ac yn rhoi adborth sydd yn annog y plentyn i chwilio a thrio pethau newydd. Mae S4C wedi datblygu nifer o apiau dros y blynyddoedd, ond mae'r un yma ymhlith y mwyaf arloesol a chyffrous ers lansio'r gwasanaeth yn 2008."

Mae ap Byd Cyw wedi cael ei ddatblygu gan Thud Media a Boom Plant dan arweiniad Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C, Rhodri ap Dyfrig.

Diwedd

App Store: https://itunes.apple.com/gb/app/byd-cyw/id1208535944

Google Play: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.thud.bydcyw&hl=en

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?