S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rasus harnes yn cael eu gweddarlledu’n fyw ar S4C

29 Mehefin 2017

Fe fydd S4C yn gweddarlledu rasus harnes dwy o wyliau trotian mwyaf Cymru yn fyw yr haf yma.

Bydd pob un ras o Rasus Clwb Trotian Ceredigion ar ddydd Sul, 2 Gorffennaf a Gŵyl Rasus Harnes Tregaron ar ddydd Sadwrn, 26 Awst yn cael eu gweddarlledu’n fyw ar s4c.cymru ac ar S4C Facebook Live.

Yn ogystal, fe fydd rhifyn arbennig awr o hyd o Rasus yn cael ei darlledu ddydd Llun Gŵyl y Banc, 28 Awst, gan gynnig holl uchafbwyntiau'r ddau gyfarfod rasio mawr yma a chrynhoi hanes y tymor rasio harnes ar hyd a lled y wlad.

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous i S4C a’r byd rasio harnes ledled gwledydd Prydain. Mae gweddarlledu chwaraeon byw yn wasanaeth yr ydym yn ei gynnig a’i ddatblygu mwy a mwy ac rwy’n siŵr y bydd dangos dau o gyfarfodydd rasio harnes mwyaf y deyrnas Unedig yn cael ei groesawu gan ddilynwyr y gamp.”

Cwmni Slam Media fydd yn cynhyrchu’r arlwy. Fe fydd y sylwebaeth, a fydd ar y rasus yn unig, ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar s4c.cymru ac yn y Gymraeg yn unig ar S4C Facebook Live.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?