S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Croesawu adroddiad Pwyllgor y Cynulliad ar ddyfodol S4C

03 Awst 2017

Mae Cadeirydd S4C, Huw Jones, wedi croesawu argymhellion Pwyllgor y Cynulliad mewn adroddiad am ddyfodol S4C; Tu Allan i'r Bocs – Dyfodol S4C.

Mae adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ryddhau heddiw, dydd Iau 3 Awst 2017, ac yn amlinellu nifer o awgrymiadau ar gyfer y gwasanaeth y dylai S4C ei ddarparu, a'r modd mae'n cael ei ariannu.

Wrth groesawu'r adroddiad, meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C;

"Mae S4C yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad heddiw, sy’n dilyn cyfres o wrandawiadau a sesiynau trafod gwerthfawr. Rydym yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am ei ddiddordeb manwl yn yr hyn ddylai gwasanaeth S4C ei ddarparu yn y dyfodol, ac yn y modd mae’n cael ei ariannu. Bydd yr adroddiad yn sicr o fod yn gyfraniad gwerthfawr a phwysig i’r drafodaeth ynglŷn â’r materion hyn fydd yn digwydd yn sgil yr Adolygiad Annibynnol o S4C."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?