S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Nigel Owens yn galw ar bobl Cymru i ddweud eu straeon nhw

08 Awst 2017

Mae'r dyfarnwr a'r cyflwynydd byd-enwog Nigel Owens yn galw ar bobl Cymru i fachu ar y cyfle i adrodd eu hoff straeon nhw i'r genedl gyfan mewn cyfres o ffilmiau byrion i S4C.

Fe wnaeth e osod y sialens i bobl y wlad yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (Mawrth, 8 Awst, 13:00) wrth ddatgelu prosiect cyffrous Chwedloni.

Bydd y ffilmiau byrion yn rhan fawr o dymor lliwgar o raglenni 'Chwedlau' S4C ym mis Tachwedd a fydd yn cynnwys amrywiaeth hudol o gynnwys i gyd-fynd â 'Blwyddyn Chwedlau 2017' Llywodraeth Cymru.

Medd Nigel Owens, "Mae gan bawb ei stori ddiddorol, rhywbeth rhyfeddol sydd wedi digwydd yn hanes y teulu neu'r gymdeithas ac rydyn ni eisiau ichi rannu nhw gyda ni i'w cynnwys nhw yn Chwedloni. Rwy'n gwybod am amryw hen chwedl leol o'n pentref ni a straeon diddorol o'r byd rygbi, y rhai sy'n weddus imi eu rhannu wrth gwrs! Mae Chwedloni yn brosiect cyffrous iawn ac rwy'n gobeithio y byddwch yn dod atom yn llu gyda'ch chwedlau gan ddangos cymaint o hwyl a dychymyg sydd gyda ni fel Cymry."

Os oes gennych stori dda yr hoffech chi ei rhannu, ewch ati i gysylltu â chwmni cynhyrchu Orchard nawr ar e-bost helo@chwedloni.cymru neu ar y ffôn 02920 100 888.

Medd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C,"Mae gan bawb o leiaf un stori, un chwedl bersonol maen nhw'n hoff o'i hadrodd - dros ginio gyda ffrindiau, dros beint yn y "pyb"….gall fod yn stori sy'n 'neud i chi chwerthin neu sy'n 'neud i chi lefain, sy'n eich synnu, eich swyno, eich arswydo hyd yn oed! Y syniad ydy dathlu a chasglu'r goreuon o'r straeon pentan yma dan faner "Chwedloni" ar S4C. Yn ogystal â chreu gwefan arbennig lle gallwch weld a gwrando ar ryw 50 o'r chwedlau gorau ar-lein, byddwn hefyd yn eu dangos rhwng ein rhaglenni oriau brig ar S4C drwy gydol mis Tachwedd".

Cafodd y prosiect 'Chwedloni', sy’n gynllun ar y cyd rhwng Croeso Cymru, S4C a chwmni cynhyrchu Orchard, ei lansio heddiw yn stondin S4C gan y cyflwynydd Lisa Angharad.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?