S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cymru’n herio goreuon rygbi’r byd yn fyw ar S4C

08 Awst 2017

Fe fydd timau rygbi Cymru’n herio goreuon y byd mewn dwy gystadleuaeth ryngwladol y mis hwn a bydd modd i gefnogwyr wylio pob gêm yn fyw ar-lein ar S4C.

Mae Cwpan Rygbi Byd y Merched yn dechrau ddydd Mercher 9 Awst yn Iwerddon, tra bydd tîm Dan-18 Cymru yn mynd ar daith i Dde Affrica i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol o ddydd Gwener 11 Awst.

Bydd S4C yn dilyn timau Cymru yn y ddwy gystadleuaeth drwy ddarlledu pob gêm yn fyw ar y wefan, s4c.cymru, yn ogystal â thudalen Facebook Live S4C Chwaraeon.

Bydd tîm Merched Cymru yn herio Seland Newydd yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd, gyda’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw o Barc Billings yn Nulyn am 2.45 ddydd Mercher 9 Awst.

Byddan nhw’n dychwelyd i’r un maes am 5.00 ddydd Sul 13 Awst i chwarae yn erbyn Canada, cyn chwarae eu gêm grŵp olaf yn erbyn Hong Kong, am 5.15 ddydd Iau 17 Awst.

Ar ôl i rowndiau’r grŵp ddod i ben, bydd y timoedd yn chwarae dwy gêm ychwanegol yn y rowndiau terfynol i benderfynu ym mha safle fydd pob tîm yn gorffen yn y gystadleuaeth. Rhys ap Wiliam a’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Caryl James fydd yn y blwch sylwebu ar gyfer pob un o gemau Cymru.

Yn Ne Affrica, fe fydd Cymru yn chwarae'r gêm gyntaf yn y Gyfres Ryngwladol am 3.00 ddydd Gwener 11 Awst yn erbyn y tîm cartref yng Nghampfa Paul Roos yn Stellenbosch. Yna, fydden nhw’n herio Lloegr ddydd Mawrth 15 Awst, cyn gorffen y gyfres yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn 19 Awst.

Dyweddodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae’r ddwy gystadleuaeth yma’n gyfleoedd gwych i chwaraewyr Cymru i ddangos eu doniau. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dangos gemau’r ddau dîm yn fyw ar s4c.cymru ac ar dudalen Facebook Live S4C Chwaraeon.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?