S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn nodi ugain mlynedd o ddatganoli gyda rhaglen ddogfen yng nghwmni Huw Edwards

19 Medi 2017

Ar 19 Medi 1997, roedd Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies yn annerch y genedl gan ddatgan ei fod yn "fore da iawn yng Nghymru". Roedd hynny drannoeth y noson fwyaf tyngedfennol yn hanes diweddar Cymru, ar ôl i Gymru bleidleisio o blaid datganoli.

Roedd Huw Edwards yn dyst i'r cyfan ac yn darlledu ar noson y refferendwm. Union ugain mlynedd ers araith Ron Davies, yn y rhaglen Huw Edwards: Datganoli 20 ar S4C nos Fawrth, 19 Medi, mae'r newyddiadurwr a darlledwr yn ymweld â phobl a busnesau ar hyd a lled y wlad i bwyso a mesur effaith datganoli ar fywyd yng Nghymru heddiw.

I gyd-fynd â dathliadau 20 mlynedd o ddatganoli, bydd S4C hefyd yn darlledu rhifyn o Pawb a'i Farn: Datganoli 20 nos Iau, 21 Medi, gyda Dewi Llwyd yn cyflwyno'r rhaglen yn fyw o adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Ar y panel bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Llywydd y Cynulliad Elin Jones, yr AS Ceidwadol David Davies a'r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd.

"Ugain mlynedd yn ôl, fe newidiodd hanes Cymru dros nos," meddai Huw Edwards oedd yn darlledu yn fyw ar noson canlyniad y refferendwm ym 1997. "Roedd hi'n noson drydanol a fydd yn aros yn y cof. Ond mae lot wedi newid ers hynny.

"Dwi wedi treulio'r ugain mlynedd diwethaf yn trafod gyda gwleidyddion mewn stiwdio teledu. Ond nawr, yn y rhaglen hon, dyma gyfle i mi fynd allan i gwrdd â phobl sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau eu hunain. Dyma'r lleisiau dwi eisiau eu clywed yn y rhaglen hon a dwi am geisio mesur cyflwr Cymru heddiw."

A yw datganoli wedi uno neu rannu Cymru? Sut mae agweddau at ddatganoli wedi newid yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf? A beth fydd rôl y Cynulliad yn y Gymru ôl-Brexit?

"Yn y rhaglen rydym yn canolbwyntio ar dri phrif faes sy'n ysgogi trafod ymysg pobl: Addysg, Iechyd a'r Economi," esbonia Huw. "Ar hyd y daith mae Brexit yn thema gyson ac mae llawer wedi sôn am ddyfodol ansicr ac yn rhannu eu gofidion."

Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi costio £20,000 i gwmni Dyfed Menswear yng Ngorslas eisoes. A all busnesau o'r fath oroesi yn y Gymru ôl-Brexit a beth all y Cynulliad ei wneud i helpu? A beth am y diwydiant amaeth? Bydd Huw yn dysgu am fenter Ffermydd Teuluol sy'n cynnwys wyth o deuluoedd yng ngogledd Cymru sydd â'r nod o gynyddu gwerthiant cig oen yng Nghymru. Ond y cwestiwn mawr yw beth fydd effaith Brexit ar allforio cynnyrch o Gymru i'r cyfandir?

Bydd Huw yn cwrdd â masnachwyr yn Aberteifi ac yn ymweld â Halen Môn ym Mrynsiencyn i glywed eu hargraffiadau nhw am yr economi. Ydy'r berthynas rhwng y Cynulliad a San Steffan yn eu helpu neu'n eu llesteirio? A pha gymorth bu'r ddwy Lywodraeth yn ystod argyfwng swyddi Tata Steel? Bydd Huw yn ymweld â Phort Talbot i ddysgu mwy.

Yng Nghasnewydd, byddwn yn ymweld ag ysgol gyfun fwyaf newydd Cymru, Ysgol Gwent Is Coed. Mae'r galw am addysg Gymraeg yn cynyddu yn yr ardal, a byddwn yn clywed pam gan y Pennaeth.

Ac yn ôl yn y gogledd, bydd Huw yn dadansoddi heriau sy'n wynebu'r Gwasanaeth Iechyd a chartrefi gofal fel Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon. Gyda'r disgwyl y bydd y galw am ofal mewn cartrefi preswyl yn cynyddu 80% dros yr ugain mlynedd nesaf, sut mae cartrefi gofal a meddygon teledu fel Dr Dylan Parry yn Hen Golwyn, yn ymateb i'r her?

Wrth dreiddio'n ddwfn i fywydau yng Nghymru, pa wahaniaeth mae'r ugain mlynedd diwethaf wedi ei wneud i'r wlad? A beth yw'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol, wrth i ddatganoli yn y Deyrnas Unedig wynebu ei her fwyaf eto yng nghysgod pleidlais Brexit?

Huw Edwards: Datganoli 20, Nos Fawrth 19 Medi 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg, Cynhyrchiad Wales and Co.

Pawb a'i Farn: Datganoli 20, Nos Iau 21 Medi 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg, Cynhyrchiad BBC Cymru

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?