S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cais Quinnell ar frig y domen Cais i Gymru

28 Tachwedd 2017

Cais cofiadwy Craig Quinnell yn erbyn Ffrainc yn 1999 sydd wedi ei ddewis fel ffefryn y genedl yn dilyn pleidlais Cais i Gymru S4C.

Roedd y cais yn rhan allweddol o'r fuddugoliaeth hanesyddol i Gymru dros y Ffrancwyr, o 34 i 33 yn y Stade de France.

Daeth y cais i'r brig o blith rhestr fer oedd yn cynnwys ceisiau cofiadwy gan Phil Bennett, Gareth Edwards, Adrian Hadley, Ryan Jones ac Alex Cuthbert, yn ogystal ag ewythr Quinnell, Barry John.

Yn rhan o dymor Chwedlau S4C, roedd pleidlais Cais i Gymru yn ddathliad o rai o'r chwaraewyr a'r ceisiau enwocaf dros Gymru.

Cafodd rhestr fer ei ddewis gan banel o arbenigwyr y rhaglen Clwb Rygbi, oedd yn cynnwys cyn capten Cymru, Gwyn Jones, y sylwebydd Gareth Charles a’r cyflwynydd Gareth Rhys Owen.

Cafodd y cais buddugol ei gyhoeddi’n fyw ar Clwb Rygbi ddydd Sadwrn, yn rhan gêm fyw rhwng Cymru a Seland Newydd.

Dywedodd y cyflwynydd Gareth Rhys Owen: “Roedd hi'n anodd dyfalu pa gais fyddai'n mynd â hi, o blith rhestr o geisiau gan rai o chwaraewyr mwyaf chwedlonol y gêm yng Nghymru.

"Ond does ddim dwywaith am safon cais Craig Quinnell sy'n sefyll mas yn ystod cyfnod gymharol lwm yn hanes y tîm cenedlaethol.”

Mae pob cais ar y rhestr fer ar gael i’w gwylio ar wefan S4C, s4c.cymru/caisigymru.

Mi fydd gêm olaf Cymru yng nghyfres yr Hydref yn erbyn De Affrica yn cael ei darlledu yn fyw ar Clwb Rygbi brynhawn Sadwrn, 2 Rhagfyr, gyda’r rhaglen yn dechrau am 2.00.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?