S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadwch yr adduned Flwyddyn Newydd – gyda chymorth cyfres deledu newydd

05 Ionawr 2018

Mae pawb yn dueddol o fwynhau trît dros gyfnod y Nadolig… ond yn fuan wedyn daw'r pryder am effaith hynny ar ein hiechyd… oedd hi'n syniad da cael y darn ola' 'na o'r treiffl?

Mae'r ystadegau yn ddigon i'ch synnu! Mae'r twrci, y trimins, y pwdin a'r diodydd yn gallu cyfrannu at gyfanswm o 5,240 o galorïau i bob person, a hynny ar Ddydd Nadolig yn unig! *

Ar ben hynny, mae pryder cynyddol am gyflwr iechyd y genedl, gyda 60% o oedolion dros eu pwysau, a 1 ym mhob 4 yn ordew. **

Ond, wrth i’r Flwyddyn Newydd fynd rhagddi mae S4C yn cynnig cyfle unigryw i newid hen arferion am byth; i helpu pum person brwdfrydig i gadw at eu hadduned am fywyd FFIT ac iach yn y gyfres newydd FFIT Cymru.

Dyma gyfle unigryw i fanteisio ar hyfforddwr personol, dietegydd a seicolegydd fydd yn cefnogi ac yn cynghori pob cam o'r ffordd – ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y nod.

Os ydych chi'n awyddus i gymryd rhan, gallwch gofrestru nawr ar wefan s4c.cymru/ffitcymru Y dyddiad cau yw 2 Chwefror 2018.

Mae cynhyrchydd y gyfres, sy'n cael ei greu gan Cwmni Da, yn eich annog i fynd amdani. Meddai Siwan Haf, o Gwmni Da;

"Anghofiwch am ymaelodi â champfa ddrud, dyma'r cyfle gorau i ddechrau byw yn iach gyda help ein tîm o arbenigwyr brwdfrydig. Ym mhle arall y gallwch chi fanteisio ar hyfforddwr, dietegydd a seicolegydd proffesiynol yn rhad ac am ddim?

"Ar FFIT Cymru byddwn ni yn eich cefnogi chi ar hyd y daith. Drwy gymryd camau bychain, a newidiadau yn eich bywyd pob dydd, gallwch wneud newid mawr i'ch corff a'ch meddwl. Does dim angen treulio oriau ar y treadmill; does dim rhaid llwgu pob dydd – gyda'n gilydd gallwn newid ein ffordd o fyw ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.

"Ar ddechrau'r flwyddyn, mi fydd llawer ohonom ni yn meddwl am yr adduned flynyddol i fwyta'n iach ac i wneud mwy o ymarfer corff; yn enwedig ar ôl hel ein boliau dros gyfnod y Nadolig. Felly rŵan ydi'r amser i fynd amdani!"

Bydd FFIT Cymru ar S4C ym mis Ebrill 2018. Yn cyflwyno mae Lisa Gwilym ac yn gwmni iddi bydd yr hyfforddwr personol o Benarth Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke sy'n byw ym Mhont-y-clun a'r seicolegydd Dr Ioan Rees o Ben Llŷn.

Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein i s4c.cymru/ffitcymru

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Mae FFIT Cymru yn gyfres wyth pennod sy'n gynhyrchiad gan Cwmni Da ar gyfer S4C. Mi fydd yn cael ei darlledu ym mis Ebrill 2018.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 2 Chwefror. Mae'r ffurflen gais ar gael ar wefan s4c.cymru/ffitcymru

Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn i gymryd rhan.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru:

• Mae 3 o bob 5 o oedolion yng Nghymru yn rhy drwm neu’n ordew;

• Mae 1 o bob 5 o oedolion yng Nghymru yn ysmygu;

• Mae 1 o bob 5 o oedolion yng Nghymru yn yfed mwy na’r canllawiau wythnosol;

• Dim ond 1 o bob 4 o oedolion yng Nghymru sy'n bwyta 5 ffrwyth neu lysieuyn bob dydd;

• Dim ond 1 o bob 2 o oedolion yng Nghymru oedd yn weithgar am 150 o funudau neu ragor yr wythnos cynt.

Yn ôl ymchwil gan Lywodraeth Cymru mae'r GIG yng Nghymru yn gwario £73 miliwn pob blwyddyn yn trin ac yn ceisio atal gordewdra.

*Yn ôl ymchwil gan Forza Supplements

**Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?