S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi cyflwynwyr newydd Dechrau Canu Dechrau Canmol

17 Ionawr 2018

 Bydd wynebau newydd a chyfarwydd yn dod ynghyd i gyflwyno un o gyfresi hynaf S4C ar ei newydd wedd nos Sul, 4 Chwefror ar S4C.

Mae’r gyfres grefyddol Dechrau Canu Dechrau Canu wedi bod yn rhan annatod o amserlen S4C ers 1989, ond o hyn ymlaen bydd pump cyflwynydd newydd yn ymuno âr rhaglen.

Yn eu plith mae cyflwynydd BBC News at Ten, Huw Edwards, a’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens sydd wedi dweud yn y gorffennol mai’r emyn ‘Mor Fawr Wyt Ti’ yw’r gân olaf mae’n gwrando arni cyn camu ar y cae.

Y cyflwynydd Lisa Gwilym, yr actor a cherddor Ryland Teifi a’r cyflwynydd Nia Roberts, sydd wedi cyflwyno’r gyfres yn y gorffennol, sy’n cwblhau’r rhestr.

Mae’r gyfres yn cynnwys canu mawl mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru a chyfweliadau gyda phobl am eu ffydd a chredoau. Bydd rhaglenni arbennig yn ystod y flwyddyn yn nodi’r dyddiadau pwysig yn y calendr crefyddol ac achlysuron cenedlaethol.

Mi fydd rhaglen gynta’r gyfres yn dilyn y thema rygbi i gyd-fynd a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad 2018. Owain Arwel Hughes fydd yn arwain y canu cynulleidfaol sy’n dod o Eglwys Dewi Sant, Castell Nedd.

Bydd sgyrsiau gyda’r sylwebydd rygbi Alun Wyn Bevan ac arweinydd Côr y Gleision, Richard Vaughan yn ogystal â chyfweliad gyda Manon a Gwenan Gravell, merched y diweddar Ray Gravell.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, “Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn un o gonglfeini gwasanaeth S4C ar nos Sul. Mae’n gyfle i ddathlu’r traddodiad mawl a chanu arbennig sy’n ein nodweddu ni fel gwlad, yn ogystal â chyfle i gael sgyrsiau difyr gydag amrywiaeth o bobl am eu profiadau ysbrydol a’r gwerthoedd moesol sy’n bwysig iddyn nhw. Mi fydd hi’n braf iawn cael gweld y cyflwynwyr newydd ar y sgrin ym mis Chwefror, gyda phob un ohonyn nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol a chyffrous i’r gyfres.”

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?