S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pobl ifanc sy'n cadw fflam Cefn Gwlad yn fyw

15 Chwefror 2018

Ers 35 mlynedd, mae'r rhaglen amaeth Cefn Gwlad wedi bod yn rhan annatod o amserlen S4C yn ogystal â bod yn un o raglenni mwya' poblogaidd y sianel. Ond wrth i'r gyfres newydd ddechrau nos Fawrth, 27 Chwefror, bydd tîm newydd o gyflwynwyr wrth law i helpu Dai.

Y ffermwr a'r darlledwr Dai Jones, Llanilar fydd asgwrn cefn y gyfres o hyd wrth iddo gyfarfod rhagor o gymeriadau sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru. Ond yn ymuno ag o yn y gyfres newydd bydd gwraig fferm o Geredigion, Meleri Williams, y cyflwynydd a'r ffermwr defaid Ioan Doyle, y cyflwynydd a'r wraig fferm Mari Lovgreen a'r ffermwr o Fro Ddyfi, Rhys Lewis.

Yn ogystal, cawn gwrdd ag aelod ifanca'r tîm - Elis Morris, 10 oed, o Gaerdydd – sydd, fel Dai Llanilar, wedi ei fagu yn y ddinas ond â'i fryd ar fod yn ffermwr. Yn ystod y gyfres, byddwn yn dilyn Elis wrth iddo gymryd ei gamau cyntaf i mewn i'r byd ffermio.

Ac yntau'n 74 mlwydd oed, mae digon o betrol yn y tanc gan Dai o hyd. Mae'n parhau i ffermio a darlledu gymaint ag erioed ac wedi mwynhau dros 50 mlynedd yn cyflwyno rhaglenni poblogaidd fel Sion a Siân a Cefn Gwlad yn ogystal â rhaglen radio wythnosol ar BBC Radio Cymru, Ar eich Cais. Ond mae'n edrych ymlaen at rannu awenau ei raglen enwocaf gyda'r criw newydd.

"'Da ni ar drothwy newid mawr," meddai Dai o'i fferm yn Llanilar. "I ddechrau, bydd y rhaglenni'n awr yn hytrach na hanner awr a dwi'n meddwl y byd o'r dewis o'r pedwar aelod newydd. Mae'r pedwar yn bobl ifanc y wlad, yn dod o gefndir amaethyddol ac wedi cael eu trwytho yng nghefn gwlad Cymru. Ac mae'n holl bwysig bod Cefn Gwlad yn cadw ei gymeriad amaethyddol, gwledig. Wedi'r cwbl, fyddai rhywun ddim yn gofyn i berson sy'n gweithio mewn siop tsips ddreifio awyren, na fydden nhw? A phobl ifanc fel y rhain sy'n cadw fflam cefn gwlad yn fyw."

Ym mhennod gynta'r gyfres newydd bydd Dai yn teithio i Ben Llŷn i gwrdd ag Ifan Hughes, perchennog Garej Ceiri Llanaelhaearn, neu Ifan Lodge fel mae'n cael ei adnabod yn lleol. Bydd Mari, merch sydd wedi ei magu yn nhref Caernarfon ond sydd bellach wedi setlo ym mwynder Maldwyn, yn dysgu mwy am fenter a dyfeisgarwch gwragedd fferm sy'n llwyddo i jyglo cadw teulu, rhedeg ffarm a mentro i fyd busnes. A bydd Rhys allan yng nghanol nos i wylio Rali Nos Bro Ddyfi sy'n sgrialu heibio ei fferm.

Dros y blynyddoedd, mae Dai wedi cyfarfod toreth o gymeriadau ym mhob twll a chornel o Gymru ar gyfer Cefn Gwlad, ond oes ganddo unrhyw gyngor ar gyfer y cyflwynwyr newydd?

"Y peth pwysig yw eu bod nhw'n bod yn nhw eu hunain. Dwi'n cofio'r diweddar Geraint Rees, cyn-gynhyrchydd Cefn Gwlad, yn dweud wrtha i pan o'n i'n trosleisio un o'r cyfresi cynnar, 'Paid trio bod yn llenyddol, Dai. Gad hynny i'r beirdd. G'na 'di fe yn dy ffordd dy hunan - mae e'n fwy angerddol.' Ac alla i ddim pasio gwell gyngor ymlaen i'r criw ifanc 'ma."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?