S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mis o raglenni i ddathlu brwydr menywod Cymru a’r byd

20 Chwefror 2018

Dewrder. Penderfyniad. Dycnwch. Angerdd. Dyma rai o’r geiriau i ddisgrifio’r menywod fu’n ymladd am degwch a chyfiawnder cymdeithasol dros y ganrif a mwy diwethaf.

Fe fydd mis Mawrth 2018 ar S4C yn llawn rhaglenni difyr am fenywod dewr, penderfynol, dygn ac angerddol wrth i’r sianel nodi canrif ers i rai menywod gael y bleidlais ym 1918.

Mae’r amserlen yn cynnwys rhaglenni dogfen gafaelgar am fod yn fenyw ac yn fam heddiw, gyda dwy o ddarlledwyr amlyca’ Cymru, Alex Jones a Ffion Dafis yn eu cyflwyno.

Fe fydd hefyd rhaglenni adloniant a dogfen a fydd yn cynnwys portread o sêr pop benywaidd y 1960au a’r 1970au, gig gyda rhai o artistiaid yr 21ain Ganrif, rhifyn arbennig o’r rhaglen drafod Pawb a’i Farn gyda phanel o fenywod yn unig, a dogfen am un o fenywod mwyaf blaengar Ewrop yr 20fed Ganrif, Louise Weiss.

Daw’r cyfan i’r sgrin mewn mis pan fyddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth a Sul y Mamau ar 11 Mawrth a phan mae trydedd gyfres o Parch yn dechrau nos Sul 4 Mawrth gyda Carys Eleri yn portreadu’r cymeriad hynod Myfanwy Elfed yn y gyfres a ysgrifennwyd gan yr awdur disglair, Dr Fflur Dafydd.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, “Mae bron hanner poblogaeth y byd yn fenywod ond dyw menywod Cymru na’r byd ddim yn cael hanner y cyfleoedd, y cydraddoldeb, y llais na’r llwyfan. Mae S4C yn falch o gynnig tymor o raglenni sy’n darlunio bywyd menywod heddiw, y frwydr am gyfiawnder cymdeithasol ac yn rhoi llwyfan i fenywod sydd yn ein herio a’n diddanu.”

Dyma raglenni’r tymor:

Ffion Dafis - Bras, Botox a’r Bleidlais

Nos Sul 04.03.18 @ 8.00, Cynhyrchiad Rondo Media

Ganrif wedi i rai merched ennill y bleidlais am y tro cyntaf, yr actores a’r awdures Ffion Dafis sy’n mynd ar daith bersonol i weld faint mewn gwirionedd sydd wedi newid i fenywod erbyn heddiw. Yn ogystal â thrafod gyda’r menywod dylanwadol yn ei bywyd hi, bydd Ffion yn sgwrsio â merched ysbrydoledig o bob cwr o’r wlad er mwyn gweld faint mae cymdeithas wedi symud ymlaen o ddifri.

Pawb a’i Farn

Nos Iau 08.03.18 @ 9.30, Cynhyrchiad BBC Cymru

Ar ddiwrnod rhyngwladol y merched panelwyr Pawb a’i Farn fydd Dr Elin Haf Davies, anturiaethwraig a pherchennog busnes, Siân Gwenllïan AC, Plaid Cymru, yr Athro Mari Lloyd-Williams o Brifysgol Lerpwl, y Democrat Rhyddfrydol y Farwnes Christine Humphreys a Melanie Owen o’r blaid Geidwadol. Cyfle i drin a thrafod pynciau sydd o bwys i gynulleidfa o bobl Sir Ddinbych.

Alex Jones: Y Fam Gymreig

Nos Sul 11.03.18 @ 8.00, Cynhyrchiad Boom Cymru

Yn y ddogfen yma fe fydd Alex Jones, a gafodd ei phlentyn cyntaf flwyddyn yn ôl, yn teithio ar hyd a lled Cymru yn sgwrsio gyda mamau Cymreig eraill. Fe fydd hi’n gofyn y cwestiynau oesol – a yw hi’n bosib i fam gael y cyfan? Sut mae cydbwyso bywyd teuluol a gyrfa a beth yw’r gyfrinach i fod yn fam dda? Dyma gyfle i famau ddweud eu dweud a rhannu profiadau a straeon.

Lle Aeth Pawb?: Merched Pop '65-'75

Nos Sadwrn 17.03.18 @ 8.00, Cynhyrchiad Cwmni Da

Rhaglen arbennig Lle Aeth Pawb? sy’n dathlu cyfraniad merched i fyd adloniant poblogaidd Cymru'r 60au a’r 70au. Gyda chwmni Sain yn rhyddhau CD yn dathlu cyfraniad y merched hyn, mae’r rhaglen yn olrhain hanes artistiaid fel Evelyn Owen o Fôn aeth ymhell iawn o’i chynefin cyn cael ‘hit’ yn Singapore a Tammy Jones a lwyddodd i ddenu’r nifer fwyaf erioed o bleidleisiau yn y gyfres dalent Opportunity Knocks. A beth ddigwyddodd i’r gantores benfelen, Heather Jones, y Pelydrau o Drawsfynydd a’r triawd o Gaerdydd, Y Diliau?

Louise Weiss: Brwydro'n y cysgodion

Nos Sul 18.03.18 @ 8.00, Cynhyrchiad Rondo Media

Hanes un o ferched mwyaf dylanwadol Ffrainc wnaeth ymladd rhagfarn a chaledi i gael ei chydnabod fel newyddiadurwraig, awdur a gwleidydd blaenllaw ac ymgyrchydd diflino dros sicrhau’r bleidlais i ferched yn ei mamwlad. Gwnaeth dycnwch Louise Weiss arwain at wireddu breuddwyd wrth iddi draddodi araith agoriadol y Senedd Ewropeaidd a hithau’n 86 oed.

Cyngerdd Eden ac Elin Fflur

Nos Sul 31.03.18 @ 7.30, Cynhyrchiad Avanti Media

Wedi dwy gig anhygoel ar Faes Eisteddfod Môn 2017, paid â chau’r drws ar y cyfle i fwynhau Eden ac Elin Fflur yn perfformio ar yr un llwyfan sef Theatr Bryn Terfel, Pontio Bangor. Tyrd lawr o’r dyffryn a phaid â bod ofn dod i glywed yr hits i gyd, gydag ambell syrpreis.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?