S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Erfyl Owen yn ennill teitl Cân i Gymru 2018

02 Mawrth 2018

Y gân Cofio Hedd Wyn gan Erfyl Owen, o Rhewl ger Rhuthun enillodd dlws Cân i Gymru 2018 a'r wobr o £5,000.

Yn ail ac yn ennill gwobr o £2,000 roedd y gân Byw a Bod gan Mared Williams a’r gân a ddaeth yn drydydd ac yn ennill gwobr o £1,000 oedd Tincian gan Bethan Williams Jones a Sam Humphreys.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth nos Iau 1 Mawrth yn Theatr Bryn Terfel, Pontio; a'i darlledu'n fyw ar S4C. Yn cyflwyno roedd y gantores a’r cyflwynydd Elin Fflur a'r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris.

Mae Erfyl Owen yn gweithio i Gyngor Sir Dinbych, ac mae’n aelod o deulu cerddorol Hafod y Gân. Arferai gyfansoddi caneuon gyda’i diweddar fam ar gyfer penblwyddi ac achlysuron arbennig i ffrindiau a theulu, ond dyma’r tro cyntaf iddo gyfansoddi’r alaw a’r geiriau. Roedd yn awyddus i greu geiriau oedd am fynd at galon y genedl, wrth sôn am ganmlwyddiant marwolaeth y bardd Hedd Wyn. Cafodd ei gân ei pherfformio gan y grŵp Ceidwad y Gân. Harri, mab Erfyl yw prif leisydd y grŵp.

“Alla i ddim coelio ‘mod i wedi ennill. Mae’n deimlad ffantastig” meddai Erfyl. “O’n i mor falch o gyrraedd yr wyth olaf, a dwi mor falch bod fy mab a’i ffrindiau wedi canu’r gân” ychwanega.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C; “Mae wedi bod yn noson wych i gerddoriaeth wreiddiol, Gymraeg. Llongyfarchiadau i bob un o’r cyfansoddwyr a’r cerddorion fu’n rhan o noson Cân i Gymru 2018, ac yn enwedig i’r enillydd Erfyl Owen.

Yr wyth cân a ddaeth i’r brig oedd: Dwi’m yn Dy Nabod Di gan Dafydd Dabson ac Anna Georgina; Ton gan Gwynfor Dafydd a Michael Phillips; Ysbrydion gan Aled Wyn Hughes; Cofio Hedd Wyn gan Erfyl Owen; Dim Hi gan Hana Evans; Ti’n Frawd i Mi gan Owain Glenister; Byw a Bod gan Mared Williams a Tincian gan Bethan Williams Jones a Sam Humphreys.

Ar ôl i bob cân gael eu perfformio, rhoddwyd y dasg o ddewis yr enillydd yn nwylo’r gwylwyr drwy’r bleidlais ffôn.

Gallwch wylio’r rhaglen gyfan ar-lein, ar alw ar s4c.cymru

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?