S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynyrchiadau S4C yn cipio medalau Arian ac Efydd yng Ngwobrau Gŵyl Efrog Newydd 2018

11 Ebrill 2018

  Mae tri o gynyrchiadau S4C wedi cipio medalau yng Ngwobrau Gŵyl Efrog Newydd 2018.nnFe wnaeth y ddrama Bang a'r rhaglenni dogfen Hen Blant Bach a Colli Dad: Siarad am Hynna greu argraff ar y rheithgor rhyngwladol o feirniaid ymysg ceisiadau o dros 40 o wledydd. nnMae'r rhaglen ddogfen Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi ennill gwobr Medal Arian y Byd yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y rhaglen yn dangos arbrawf cymdeithasol arloesol - y cyntaf o’i fath i gael ei ddangos ar y teledu - a gafodd ei gynnal mewn canolfannau gofal ar draws Cymru wrth i blant meithrin rannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.nnMae drama drosedd ddwyieithog gyntaf S4C, Bang, wedi ennill Medal Efydd y Byd yng nghategori Drama Drosedd. Cafodd cynhyrchiad Joio ac Artists Studio, sydd wedi ei gwreiddio'n ddwfn yng nghymuned Port Talbot a Chwm Afan, ei hysgrifennu gan yr awdur Roger Williams ac mae’n dilyn stori am ŵr ifanc diymhongar a thawel sy’n gweld ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae’n cael gafael ar wn.nnAc mae’r rhaglen ddogfen Colli Dad, Siarad am Hynna, cynhyrchiad BBC Cymru, hefyd wedi ennill Medal Efydd y Byd. Mae’r ffilm bwerus a phersonol yn dilyn Stephen Hughes wrth iddo drafod a dod i dermau gyda hunanladdiad ei dad er mwyn deall pam ein bod ni'n ei chael hi mor anodd siarad am 'hynna'.nnMeddai Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees; "Llongyfarchiadau i’r cwmnïau i gyd ar eu llwyddiant. Gyda chystadleuaeth o dros 40 o wledydd, mae’n profi bod cynyrchiadau S4C ymysg y gorau yn y byd ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu. Mae ein rhaglenni dogfen wedi bod o'r safon ryngwladol uchaf ers rhai blynyddoedd ond mae Medal Efydd i ddrama Bang yn dangos bod y dalent cynhenid sydd gennym ni yng Nghymru’n ail i ddim ac mae beiddgarwch S4C wrth gomisiynu dramâu o safon yn talu ar ei ganfed.” nnMae’r tri cynyrchiad yma hefyd yn gobeithio am wobr yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni, wedi iddyn nhw gael eu cynnwys ymhlith naw o enwebiadau i S4C ar restr fer Gwobrau'r Ŵyl. Mae hi'n cael ei chynnal yn Llanelli rhwng 2 a 4 Mai. nnDiweddn n 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?