S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Catherine Linstrum yn saethu ei ffilm hir gyntaf yn rhan o gynllun Sinematig

01 Mai 2018

Bydd Nuclear yn cychwyn ar y prif waith ffotograffiaeth yng Nghymru yr wythnos hon, ac mae’n cael ei chynhyrchu drwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales, sydd wedi ei gefnogi gan S4C ymhlith partneriaid eraill.

 

Merch yn ei harddegau yw Emma, sy’n cael ei chwarae gan Emilia Jones (Youth, High Rise), ac Eve Best (The King’s Speech) sydd yn rôl y fam. Dyma ffilm gyffro oruwchnaturiol sy’n ymwneud â gwenwyn teuluol a ffrae ffrwydrol a thrasig. Caiff Emma gymorth i symud ymlaen o flinderau’r gorffennol gan George MacKay (Pride, Bypass).

Nuclear yw ffilm gyntaf Catherine Linstrum fel cyfarwyddwr, a hithau’n fwyaf adnabyddus am ei sgriptiau Dreaming of Joseph Lees ac enillydd Cannes Un Certain Regard, California Dreamin’. Ysgrifennwyd Nuclear ar y cyd rhwng Linstrum a David John Newman, a chaiff ei chynhyrchu gan Stella Nwimo. Yn flaenorol, cydweithiodd Linstrum a Nwimo ar ffilm fer Things That Fall from the Sky, gydag Ophelia Lovibond a Steve Waddington yn serennu, drwy gynllun Beacons RHWYDWAITH BFI Cymru.

Caiff Nuclear ei saethu ar leoliad yn Eryri gyda’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth o Ffrainc, Chrystel Fournier (Girlhood, Paris Can Wait).

Meddai Stella Nwimo: “Mae gan Catherine lais unigryw i adrodd stori. O’i chyflwyniad byr dros goffi, roeddwn i wedi fy hudo, a gwyddwn bryd hynny y gwnelen i unrhyw beth i greu’r ffilm drawiadol hon gyda hi. Rwy wrth fy modd â’r cydweithwyr dawnus y mae sgript Catherine a David wedi’u denu.”

Datblygwyd Nuclear drwy ail garfan cynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales, a fydd yn cynhyrchu tair ffilm gan wneuthurwyr ffilm addawol o Gymru sydd â lleisiau beiddgar ac unigryw, gan ddangos apêl greadigol, potensial masnachol a ffocws yn y farchnad. Caiff Sinematig ei gyllido drwy bartneriaeth rhwng BFI, gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol, S4C a Great Point Media, gyda chymorth ychwanegol gan Fields Park Media Partners a Warner Music Supervision.

Y ddwy ffilm arall a fydd yn cychwyn ar waith cynhyrchu yn nes ymlaen eleni drwy gynllun Sinematig yw’r ffilm arswyd gyfoes Gymraeg Cadi, gan y cyfarwyddwr Lee Haven Jones (Shetland) a’r cynhyrchydd Roger Williams (Bang), a’r ffilm gyffro, hiwmor tywyll, The Toll, gan yr awdur Matt Redd, y cyfarwyddwr Ryan Hooper, a’r cynhyrchydd Vaughan Sivell, Western Edge Pictures (Prevenge, Third Star).

Mae ffilmiau blaenorol a gynhyrchwyd drwy gynllun Sinematig yn cynnwys ffilm gyntaf Craig Roberts fel cyfarwyddwr, Just Jim, addasiad llwyddiannus Euros Lyn o nofel Gymraeg Fflur Dafydd, Y Llyfrgell / The Library Suicides, a ffilm hanesyddol iasol Chris Crow, The Lighthouse.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?