S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

"Bu'r drws ar gau am rhy hir" – rhaglen onest am drychineb Hillsborough yn derbyn Prif Wobr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

05 Mai 2018

Rhaglen ddogfen bwerus, emosiynol a gonest o Gymru sydd wedi derbyn gwobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni.

Hillsborough: Yr Hunllef Hir, sy'n gynhyrchiad gan gwmni Rondo Media, oedd dewis y panel o feirniaid o blith yr holl raglenni a chyfresi ar restr enwebiadau'r ŵyl eleni, oedd yn cynnwys cynyrchiadau rhagorol o'r Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Cernyw, Ynys Manaw, Llydaw a'r gwledydd Celtaidd eraill.

Ysbryd yr Ŵyl yw gwobr bwysica'r ŵyl, ac fe'i rhoddir i'r cynhyrchiad o'r safon uchaf sy'n llwyr neu'n sylweddol mewn iaith Geltaidd. Cafodd y wobr ei rhoi ar nos Wener 4 Mai 2018, ar noson ola'r ŵyl dridiau o hyd a gafodd ei chynnal eleni yn Llanelli. Roedd hi'n un o bedair gwobr a roddwyd i raglenni a chyfresi S4C eleni.

Dewiswyd y rhaglen hon oherwydd y modd y bu'n ymdrin â straeon pobl fu'n dyst i un o drychinebau mwya'r 30 mlynedd ddiwethaf, pan lladdwyd 96 o gefnogwyr mewn gwasgfa yn stadiwm Hillsborough, Sheffield, wrth wylio rownd derfynol Cwpan FA ar 15 Ebrill 1989. Yn y rhaglen, roedd y cyflwynydd a'r cynhyrchydd teledu Dylan Llewelyn yn trafod yn agored effaith y diwrnod hwnnw arno ef a chefnogwyr eraill fu'n dyst i'r drychineb, a'r frwydr hir am gyfiawnder.

Meddai Dylan Llewelyn, cyflwynydd y rhaglen a chyd-gynhyrchydd gyda Caryl Ebenezer o gwmni Rondo Media; "Mae hanes Hillsborough a 96 fu farw yn gyfarwydd i lawer, ac ry' ni oll yn cydymdeimlo gydag empathi am eu colled a'u dioddefaint nhw. Ond mae'r effaith yn mynd ymhell y tu hwnt i glwb Lerpwl, ac roedd dweud hanes y cefnogwyr o ogledd Cymru yn rhoi ongl newydd nad oedd wedi ei gweld o'r blaen. Roedd hynny yn bwysig, ac fel tîm bychan fu'n gweithio ar y rhaglen, fe wnaethom roi popeth iddi, er mwyn trin â'r pwnc a'r stori ddynol gyda sensitifrwydd.

"Mae ein diolch yn fawr i'r bobl hynny wnaeth rannu eu profiadau a'u teimladau yn y rhaglen am eu dewrder a'u gonestrwydd. Ond hefyd, i'r rheiny oedd eisiau siarad ond oedd ddim wedi gallu yn y diwedd, rydym yn falch ein bod wedi gallu am y tro cyntaf rhoi sylw i'w straeon nhw am y miloedd o bobl a theuluoedd a gafodd eu heffeithio yn hir dymor gan y diwrnod hwnnw.

"Dwi'n ddiolchgar fod y rhaglen wedi ennill y gydnabyddiaeth bwysig hon, ond mae'r wobr yn un chwerw felys i mi, Caryl a'r tîm oherwydd y rheswm pam y bu'n rhaid i ni wneud y rhaglen yn y man cyntaf. Er y teimlad o falchder ynddi, yn bersonol, roedd y broses o agor fy hun allan i ail ymweld â phrofiadau a gofidiau yn gyhoeddus yn brofiad anodd, fel oedd hi i'r rhai fu'n cymryd rhan. Dwi'n credu dyna pam yr enillodd y rhaglen y wobr oherwydd yr ogwydd Cymraeg yn eu stori nhw sydd ddim wedi cael cyfle i'w hadrodd. Bu'r drws ar gau am rhy hir a dwi'n gobeithio ein bod wedi llwyddo i helpu y bobl hynny. Mae'n daith y wnawn ni byth ei hanghofio."

Mae'r wobr wedi ei chroesawu gan Yr Athro Phil Scraton, Awdur llyfr Hillsborough: The Truth ac aelod blaenllaw o Banel Annibynnol Hillsborough, sy'n canmol y rhaglen am ddenu sylw at effeithiau hir dymor y drychineb ar filoedd o bobl.

Meddai'r Athro Phil Scraton PhD, DLaws (Hon); "Mae Hillsborough: Yr Hunllef Hir gan Rondo Media yn raglen ddogfen ragorol sy'n hynod berthnasol y tu hwnt i bêl-droed a'r byd chwaraeon. Mae'n ein hatgoffa fod dioddef profedigaeth a goroesi yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Lannau Merswy. Mae ymroddiad personol a phroffesiynol Dylan Llewelyn i anrhydeddu y dioddefaint hwnnw, gan ddangos effaith yr anghyfiawnder dros tri degawd, yn hollbwysig. Diolch Dylan, Caryl, Luned a Gareth a phawb yn Rondo. Ni Cherddi'n Unig Fyth."

Mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, yn canmol y cynhyrchwyr am eu crefft o ddangos grym effaith y drychineb drwy adrodd straeon personol; "Mae erchylltra'r hyn ddigwyddodd yn Hillsborough yn ofnadwy o gyfarwydd i fwyafrif y gynulleidfa. Ond wrth roi llwyfan a llais i’r unigolion oedd yn dyst i’r drasiedi ac yn rhan o’r frwydr i ddatgelu’r gwir amdani, mae’r rhaglen hon yn cynnig dadansoddiad newydd, unigryw a didwyll i’r gwylwyr o’r hyn ddigwyddodd yn Hillsborough.

"Crefft Caryl Ebenezer a Dylan Llewelyn fel crewyr y ddogfen oedd defnyddio straeon personol i ddangos maint a grym yr effaith ar y miloedd fu’n dyst i’r erchylltra. Hoffwn ddiolch i Llion Iwan am gomisiynu’r rhaglen ac i’r cynhyrchwyr a holl dîm Rondo am ei gwireddu. Hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i’r cyfranwyr am eu dewrder wrth rannu eu profiadau yn y rhaglen unigryw a phwysig hon. Mae’n wefr ac yn fraint ei bod wedi ei chydnabod fel un sydd yn ymgorfforaeth o Ysbryd yr Ŵyl Geltaidd."

Roedd y brif wobr hon ymhlith pedair gwobr i raglenni a chyfresi S4C yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2018. Un o'r enillwyr eraill yn y seremoni ar nos Wener 4 Mai oedd y ddrama drosedd boblogaidd Bang (Joio), a ddaeth i'r brif am yng nghategori y Gyfres Ddrama orau.

Fe wnaeth y rhaglenni adloniant y sianel wneud argraff fawr ar y beirniaid wrth i Y Salon (Boom Cymru) ennill gwobr am y gyfres Adloniant Orau ar ddydd Mercher, 2 Mai. Ac ar ddydd Iau, daeth yr arbrawf cymdeithasol mewn gofal rhwng cenedlaethau, Hen Blant Bach (Darlun), i'r brig am y rhaglen Adloniant Ffeithiol orau.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C: "Llongyfarchiadau i’r cwmnïau i gyd ar eu llwyddiant. Mae Y Salon yn amlwg wedi codi gwên gan y beirniaid yn ogystal â’n gwylwyr ac mae gwobr arall i ddrama Bang yn gydnabyddiaeth bod gan Gymru’r talent i greu dramâu o safon rhyngwladol. Ac mae arbrawf Hen Blant Bach wedi cael sylw ar draws y byd ac yn dangos beiddgarwch S4C wrth gomisiynu rhaglenni arloesol gyda phwysigrwydd cymdeithasol.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?