S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwneud cynnwys Cymraeg yn hawdd ei gael

23 Gorffennaf 2018

Heddiw (dydd Llun, 23 Gorffennaf 2018) yn y Sioe Frenhinol mae S4C yn cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol fydd yn cynnig cyfleoedd i’r gynulleidfa gael mynediad i fwy o gynnwys Cymraeg drwy’r llwyfannau digidol. Bydd cyfresi cyfan ar gael ar-lein yn dilyn darllediad y rhifyn cyntaf o fis Medi ymlaen. Bydd hyn yn cychwyn gyda chyfresi ffeithiol a bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn ystod mis Awst er mwyn dewis y cyfresi cyntaf fydd ar gael i’w gwylio i wylwyr sydd wedi mewngofnodi.

Bydd y gwasanaeth poblogaidd Hansh yn ffrydio cyfresi cyfan ar-lein ar ddyddiad y darllediad teledu cyntaf ac yn cynyddu'r cynnwys sydd wedi ei greu gan ddefnyddwyr (UGC).

Ymysg y newidiadau eraill fydd uwchraddio’r chwaraewr S4C Clic er mwyn creu profiad gwell i’r gwyliwr. Dechrau ar y broses o bersonoli gwasanaethau ar-lein fel bo gwylwyr yn gallu dod o hyd i gynnwys sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw. A dechrau ar y llwybr o hyrwyddo digidol drwy ddyfeisiadau symudol, yn ogystal â dulliau cyfathrebu digidol confensiynol eraill.

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: “Ry’n ni am wneud hi mor hawdd â phosib i bobl ffeindio cynnwys Cymraeg sy’ o ddiddordeb iddynt ar lwyfannau digidol. Mae’n digwydd gyda llawer o gynnwys Saesneg, ac mae cael yr un peth yn Gymraeg yn hollbwysig.”

Fe gyhoeddodd y sianel ym mis Ebrill y bydd yn gwario £1 miliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau fod gan S4C gynnig digidol fydd yn bodloni anghenion siaradwyr Cymraeg yn oes Netflix ac Amazon.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Owen Evans: “Mi fydd datblygiadau ym maes dosbarthu cynnwys digidol yn allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg yn y cyfryngau. Mae’r Adolygiad Annibynnol ac ymateb y llywodraeth iddo wedi derbyn yr angen i S4C ehangu ei gweithgareddau i’r gofod digidol ac rydym wedi croesawu’r penderfyniadau hynny’n fawr iawn.

“Y pwynt allweddol i S4C yw ei bod hi’n hollbwysig i ni sicrhau bod cynnwys Cymraeg ar gael ar lwyfannau digidol poblogaidd. Fe fydd hyn, law yn llaw a chynnal gwasanaeth teledu cryf, yn sicrhau bod y Gymraeg i’w chlywed yn y cyfryngau ac yn rhan amlwg o’n bywydau bob dydd o hyd.”

Mi fydd gweithgareddau digidol S4C yn cael eu cydlynu gan hyb digidol mewnol, sydd yn destun un o argymhellion yr adolygiad annibynnol. Mae S4C yn y broses o benodi i nifer o swyddi o fewn y hyb digidol fydd yn rhan o gyflawni’r cynlluniau uchod dros y blynyddoedd nesaf.

Diwedd

 

Nodiadau

Datganiad mis Ebrill: “£3 miliwn at gyfer dyfodol digidol S4C”

http://www.s4c.cymru/c_press_level2.shtml?id=3995

MANYLION CEFNDIR

Mi fydd gweithredu Strategaeth Ddigidol S4C yn hybu gwasanaethau digidol dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y cynlluniau uchelgeisiol yn cynnig cyfleoedd i’r gynulleidfa gael mynediad i fwy o gynnwys Cymraeg drwy’r llwyfannau digidol, ac yn cynyddu presenoldeb y Gymraeg yn y gofod digidol.

Bwriad Strategaeth Ddigidol S4C yw:

 - Creu isadeiledd cryf i’n sefydliad a’n cynulleidfa

Mae hyn yn golygu cryfhau ein systemau technoleg, gan sicrhau eu bod yn cwrdd â disgwyliadau cynulleidfa soffistigedig ac amrywiol. Rydym am ddefnyddio data perthnasol sy’n adlewyrchu dymuniadau a defnydd y gynulleidfa, felly byddwn yn mabwysiadu systemau sy’n caniatáu lefelau llawer uwch o bersonoleiddio.

 - Magu enw da fel Comisiynydd a Dosbarthwr Cynnwys rhagorol ar lwyfannau digidol

Mae hyn yn golygu sicrhau ein bod yn llwyddo i ddarparu ar gyfer ystod o ddefnyddwyr yn y ffordd y maen nhw’n dewis defnyddio cynnwys. Mae’r gwasanaeth teledu’n parhau’n bwysig iawn i’r gynulleidfa a byddwn yn parhau i gynnal gwasanaeth teledu cryf, ond mae’r strategaeth ddigidol yn canolbwyntio ar gryfhau elfennau digidol a fydd yn ein cynorthwyo i ymestyn ein cyrhaeddiad ymhellach, yn enwedig ymysg cynulleidfaoedd 16-34 a 45-64.

Mae S4C eisoes wedi pennu nifer o brif flaenoriaethau gweithredol ar gyfer y blynyddoedd i ddod er mwyn cwrdd â’n hamcanion.

Isadeiledd:

Gwella’r chwaraewr ar-lein –

• Gwelliannau i S4C Clic, sef chwaraewr ar-lein y sefydliad gan gynyddu capasiti a gwella profiad defnyddwyr;

• Cynnal llwyfan S4C Clic ar ystod o ddyfeisiadau – iOS ac Android.

• Yr isadeiledd angenrheidiol er mwyn cynnig ‘box-sets’ o gynnwys newydd a chynnwys archif.

Personoleiddio –

• Defnyddio llwyfannau digidol i sicrhau bod defnyddwyr unigol yn gwybod am gynnwys sydd o ddiddordeb iddyn nhw.

• Bydd S4C yn sefydlu system sy’n galluogi defnyddwyr i fewngofnodi i’n llwyfan digidol, S4C Clic, fel bod eu diddordebau personol yn cael eu cofrestru. Yna, mae S4C yn gallu sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth defnyddwyr o gynnwys perthnasol mewn amryw o ffyrdd.

• Y bwriad yw defnyddio dulliau cyfathrebu uniongyrchol amrywiol (o fewn rheolaeth y defnyddiwr) i godi ymwybyddiaeth am gynnwys sydd o ddiddordeb – ar gael ar S4C Clic, neu ar y sianel deledu.

• Mi fydd hyn yn gweithio mewn ffordd debyg i sut mae rhai darlledwyr eraill wedi bod yn gweithredu ers rhai blynyddoedd (gweler Channel 4 fel enghraifft dda).

Cynnwys – i ddenu cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol, mae’n rhaid cael cynnwys sy’n ddeniadol ac yn cwrdd â’u gofynion a chwaith cynulleidfaoedd targed. Mae gennym gynlluniau cyffrous i ddatblygu’n cynnig cynnwys:

Hansh –

• Mwy o gynnwys digidol-yn-gyntaf wrth i sianel Hansh gael ei uwchraddio;

• Amrywiaeth ehangach o gynnwys ar y gwasanaeth – e.e. gwyddoniaeth a materion cyfoes.

Box-sets –

• Ffrydio cyfresi cyfan ar-lein ar ddyddiad y darllediad teledu cyntaf;

• Cynnwys newydd a chynnwys archif;

• Cynnwys yn ddibynnol ar sicrhau’r hawliau priodol.

Llwyfan i gynnwys gan ddefnyddwyr –

• Rydym yn cynllunio er mwyn cynyddu faint o gynnwys gan ddefnyddwyr eu hunain sydd ar S4C Clic, yn enwedig gan blant.

• Ein bwriad yw defnyddio hyn fel llwyfan i adloniant, yn ogystal â ffordd o adnabod talent a’i ddatblygu.

Hyrwyddo digidol –

• Hysbysiadau hyrwyddo drwy ddyfeisiadau symudol, yn ogystal â dulliau cyfathrebu digidol confensiynol eraill.

Mae nifer o’r newidiadau uchod eisoes yn cael ei gweithredu – gydag eraill i ddilyn dros gyfnod y cynllun sef 3 blynedd. Mae’r datblygiadau dros y cyfnod yn cael eu cyllido yn sgil penderfyniad S4C i glustnodi £1m y flwyddyn dros 3 blynedd er mwyn hybu ei gwasanaethau digidol.

Mi fydd gweithgareddau digidol S4C yn cael eu cydlynu gan hyb digidol mewnol S4C, sydd yn destun un o argymhellion yr adolygiad annibynnol (Argymhelliad 2). Mae S4C yn y broses o benodi i nifer o swyddi o fewn y hyb digidol fydd yn rhan o gyflawni’r cynlluniau uchod dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r gwelliannau cyntaf i isadeiledd digidol S4C newydd eu cwblhau, gan olygu bod fersiwn newydd o S4C Clic yn mynd yn fyw i’r cyhoedd o heddiw ymlaen. Mae’r fersiwn newydd yn cynnwys nodweddion newydd sy’n ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr rannu cynnwys a gwneud sylwadau, yn ogystal â darganfod cynnwys perthnasol yn haws.

Mae’r gwelliannau uchod yn rhan o weledigaeth i apelio at genhedlaeth Netflix o wylwyr. Byddwn yn rhyddhau manylion gwelliannau yn unol â’n strategaeth wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau dros y misoedd sydd i ddod.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?