S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Partneriaeth S4C a ClickView i ddarparu cynnwys Cymraeg lleol i ysgolion a cholegau

31 Gorffennaf 2018

Mae S4C a ClickView yn falch o gyhoeddi partneriaeth gyffrous sy'n addo dod â mwy o gynnwys addysgol Cymraeg i ysgolion a cholegau Cymru. Mae llwyfan fideo ClickView yn tynnu ynghyd cynnwys a recordiwyd yn y Deyrnas Unedig, cynnwys addysgol gan gynhyrchwyr blaenllaw o amgylch y byd, a chynnwys fideo gwreiddiol yn gysylltiedig â'r cwricwlwm a gynhyrchwyd gan Dîm Cynnwys ClickView.

Mae ClickView nawr yn cofnodi ac yn storio holl raglenni teledu S4C fel bod ysgolion a cholegau Cymru yn cael mynediad iddynt trwy ClickView. Bydd ysgolion a cholegau hefyd yn gallu cael mynediad i fideos o archif S4C trwy ClickView. Mae'r bartneriaeth newydd yn rhoi’r gallu i addysgwyr Cymru gael mynediad at gynnwys addysgol lleol a chyfredol a fydd yn cefnogi eu haddysgu ac yn dyfnhau dealltwriaeth y myfyrwyr.

Meddai Edward Filetti, Prif Weithredwr ClickView: “Rydyn ni wedi gweld yr effaith bwerus y mae dysgu fideo yn ei gael ar wella ymrwymiad a pherfformiad myfyrwyr. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gydag S4C i ddod â mwy o gynnwys addysgol Cymraeg i fyfyrwyr ac athrawon trwy ddarparu recordiadau teledu o raglenni S4C yn uniongyrchol i ClickView.

“Bydd hyn yn helpu athrawon i ddarparu cynnwys mwy deniadol y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth gan ganolbwyntio ar gynnwys Cymraeg lleol.

“Mae ein tîm yn y DU yn edrych ymlaen at weithio gyda mwy o ysgolion Cymraeg i hwyluso dysgu dyfnach gyda fideo. Hefyd, hoffem ddiolch yn fawr iawn i Mererid Llwyd yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon sydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm ClickView i ddod â chynnwys addysgol S4C i fwy o ysgolion yng Nghymru.”

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae addysg yn arf bwysig wrth gryfhau dyfodol y Gymraeg ac mae argaeledd deunydd addysgu o ansawdd uchel yn allweddol i hynny. Mae S4C yn falch o fod wedi partneru gyda ClickView i sicrhau bod ein cynnwys ar gael i athrawon mewn ysgolion Cymraeg. Dyma'r math o bartneriaeth rwy'n awyddus i'w weld wrth i ni gefnogi ein huchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.”

Diwedd

Mwy am ClickView:

Mae ClickView yn defnyddio fideos addysgol o ansawdd uchel i helpu athrawon i hwyluso dysgu dyfnach, creu gwersi apelgar, a gwella canlyniadau dysgu.

O’r fideos yr ydym yn eu cynhyrchu yn ein stiwdios ein hunain, y cynnwys addysgol a gyfrannwyd gan ein cymuned, i'r rhaglenni teledu yr ydym yn eu curadu; mae ClickView yn chwyldroi sut mae defnyddio fideo i gynyddu ymgysylltiad a gwella canlyniadau myfyrwyr. Ein nod yw rhoi'r cyfle gorau i addysgwyr greu profiadau dysgu cyfoethog trwy fideo i fyfyrwyr.

Mae ein holl fideos a gweithgareddau, sy’n cyd-fynd â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, wedi eu cynllunio gan addysgwyr i gefnogi myfyrwyr ac maent ar gael yn unrhyw le, ar unrhyw amser ar ein llwyfan ar-lein sy'n hawdd ei ddefnyddio.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?