S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ap arloesol i roi persbectif newydd i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd:- 'AR y Maes' yn rhoi cip tu ôl i’r llen

31 Gorffennaf 2018

Am y tro cyntaf erioed fe fydd modd gweld yr Eisteddfod trwy lygaid newydd, rhithiol gyda ap arloesol Realiti Estynedig (Augmented Reality).

Mae ap AR y Maes yn ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Cymru, S4C ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn rhan o gynllun peilot sy’n defnyddio technoleg sy’n torri tir newydd ym maes Realiti Estynedig. Bydd yr ap yn rhoi profiad unigryw i’r rheini fydd yn ei lawrlwytho ar eu ffonau symudol neu dabled pan yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd fis nesaf.

Fe fydd yr ap dwyieithog yn caniatáu i ddefnyddwyr weld Bae Caerdydd a’r Eisteddfod o bersbectif newydd trwy lawrlwytho cynnwys digidol am adeiladau a llefydd o ddiddordeb. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am elfennau diwylliannol, gemau digidol neu daith o’r Bae gan ffigyrau adnabyddus.

Ymysg y profiadau unigryw, fe fydd defnyddwyr yn gallu gweld trwy furiau Canolfan Mileniwm Cymru i weld Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymarfer yn eu cartref sefydlog, cael eu tywys ar daith o gwmpas y Bae gan Huw Stephens i ddysgu mwy am gerddoriaeth yr ardal. Byddant hefyd yn gallu canfod a chasglu cymeriadau Cyw a’i ffrindiau yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y gwasanaeth yn 10 oed, ac hyd yn oed gweld hanes Bae Caerdydd yn dod yn fyw o flaen eu llygaid.

Mae nifer o gyrff wedi darparu cynnwys ar ei gyfer gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a’r Comisiwn Brenhinol.

Dywedodd Robin Moore, Pennaeth Arloesedd BBC Cymru:

“Mae’r ap cyffrous hwn yn ffordd newydd i Eisteddfodwyr gael persbectif newydd ar yr Ŵyl. Bwriad yr ap yw cyfoethogi profiad y rhai sydd yn mynd i Fae Caerdydd yn ystod yr Ŵyl hyd yn oed yn fwy, a gwneud dysgu am yr Eisteddfod hyd yn oed yn fwy hygyrch. Y mae wedi ei ddatblygu fel rhan o’n hymchwil i sut y gall technoleg Realiti Estynedig ganiatáu i ni osod cynnwys digidol ochr yn ochr gyda’r byd go-iawn, ac rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o bobl yn cymryd y cyfle i ddefnyddio’r ap, a’n helpu i ni ddysgu am botensial y cyfrwng newydd hwn. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r rhai sydd wedi helpu ni i greu ap mor ddiddorol a deniadol. Mae rhywbeth i bawb ynddo, ac rydyn ni’n gobeithio’n fawr y wneith pawb ei fwynhau.”

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C:

“Ein gobaith yw y bydd yr ap yn ffordd ysgafn a hwyl i Eisteddfodwyr pybyr ddod i nabod yr ardal a’i diwylliant yn well, ac i’r newydd-ddyfodiaid gael blas a dealltwriaeth ddyfnach ar draddodiadau’r Eisteddfod a’r hyn sydd i’w gynnig. Mae’n rhaid i bob darlledwr arloesi er mwyn ceisio deall gofynion eu cynulleidfaoedd yn well, ac mae’r potensial sydd o fewn ein dyfeisiau symudol yn cynyddu bob blwyddyn. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect ymchwil cyffrous a blaengar hwn.”

Dywedodd Griff Lynch sydd yn arwain ar y project ar ran yr Eisteddfod:

“O ran yr Eisteddfod mae’n allweddol fod yr Ŵyl yn arloesi, ac yn arbrofi gyda thechnoleg newydd, i gyrraedd cynulleidfa newydd, a mae cynnig brathiad o ddiwylliant Cymraeg ar ffurf Ap AR, yn ffordd arbennig o wneud hynny.

“Mae Eisteddfod Caerdydd yn fwy agored ac arbrofol ei natur, ac mae AR y Maes yn atodiad perffaith i’r profiad hwnnw, yn cynnig gwledd o Gerddoriaeth, Comedi a hanes yr Eisteddfod, bron fel pabell newydd rhith-wir ar y maes...!”

DIWEDD

Nodiadau:

Mae'r ap wedi rhannu yn saith thema dan y teitlau canlynol:

Yr Eisteddfod – Golwg newydd ar draddodiadau’r Ŵyl

Cerddoriaeth – Canllaw i arwyr cerddorol yr Eisteddfod a Bae Caerdydd

Y Bae – Llwybr i ddarganfod hanes y Bae, o ddeinosoriaid i ddatganoli

Plant – Dewch o hyd i Cyw a’i ffrindiau o amgylch y Maes ar gyfer parti pen-blwydd

Tu ôl i’r llenni: Canolfan Mileniwm Cymru – Ffenest hud i fywyd tu fewn y ganolfan

Tu ôl i’r llenni: Stiwdios – Ffenest hud ar gynyrchiadau teledu

Comedi – Golwg amgen AR y Maes gydag Esyllt Ethni-Jones, Bry a Gareth o wasanaeth S4C Hansh!

Fe fydd y defnyddiwr yn medru lawrlwytho cynnwys fesul thema, gan ddefnyddio posteri o amgylch y Maes i ddarganfod gwybodaeth.

Fydd yr ap hefyd yn cael ei ddiweddaru’n ddyddiol gyda phecyn o uchafbwyntiau o'r Maes wedi ei baratoi gan BBC Cymru Fyw.

Asiantaeth creadigol Jam Creative Studios o’r Bontfaen sydd wedi datblygu’r ap ar ran y BBC, S4C a’r Eisteddfod.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?