S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mwynhewch wledd o glasuron a ffilmiau’r Ŵyl gyda bocs sets S4C Clic

12 Rhagfyr 2018

Mi fydd detholiad o gyfresi poblogaidd S4C a ffilmiau Nadolig ar gael i'w wylio ar alw fel bocs sets ar wasanaeth ar-alw y sianel, S4C Clic.

Bydd rhai o ffilmiau a chyfresi clasuron o archif S4C ar gael i'w gwylio yn ei cyfanrwydd ar S4C Clic.

Bydd y gwasanaeth bocs sets newydd yn cael ei lansio ar ddydd Sadwrn 15 Rhagfyr, a bydd rhaglenni ar gael i'w gwylio ar y chwaraewr am 150 diwrnod.

Bydd hefyd modd gwylio rhaglenni newydd ar S4C Clic cyn eu bod nhw'n cael eu darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.

Ymysg y rhaglenni fydd ar gael gyntaf bydd: Con Passionate (cyfres 1), 04 Wal, Y Gwyll (cyfresi 1-3), 35 Diwrnod (cyfres 1 a 2), Nyth Cacwn a Bois y Pizza.

Hefyd ar gael i'w gwylio bydd detholiad o ffilmiau Nadoligaidd, gan gynnwys enillydd gwobr BAFTA Plant, Rhestr Nadolig Wil, Porc Pei ac Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig.

Mae Hedd Wyn, a gafodd ei enwebu am Oscar, ar gael i'w wylio eto, yn ogystal â'r ffilm o 1999, Tair Chwaer - Cymer Dy Siâr. Bydd y gyfres Sinema'r Byd hefyd i'w weld ar S4C Clic, sef cyfres o bum ffilm fer a gafwyd ei ddangos ar draws y cyfandir gan ddarlledwyr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU).

Mi gaiff rhagor o raglenni ei hychwanegu i wasanaeth S4C Clic yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i wylio eu hoff raglenni a ffilmiau, ac rydym yn falch iawn i lansio gwasanaeth bocs sets Clic yn ystod cyfnod yr Ŵyl.

"Mae'r ffordd mae pobl yn gwylio ein cynnwys wedi gweddnewid ac mae'n bwysig bod ein rhaglenni ar gael i'w gwylio ar lwyfannau digidol.

"Mae defnyddwyr S4C Clic nawr yn gallu gwylio hen gyfresi S4C a rhai newydd mewn ffurf bocs sets ac mae hynny'n bwysig iawn i ddatblygiad y gwasanaeth.

"Mae datblygu Clic yn rhan sylweddol o'n strategaeth ddigidol ac mi ydw i'n falch ein bod ni'n gallu agor drysau ein harchif a chynnig cynnwys iaith Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd."

I ddefnyddio S4C Clic, ewch i s4c.cymru/clic, neu lawrlwythwch ap S4C Clic am ddim ar gyfer iOS neu Android.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?