S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Leah yn chwilio am y record wrth i S4C ddarlledu hoci rhyngwladol

01 Mai 2019

Mi fydd Leah Wilkinson, capten tîm hoci Cymru, yn anelu i dorri'r record genedlaethol am y chwaraewr â'r nifer fwyaf o gapiau mis nesaf ac mi fydd camerâu S4C yno i ddangos y cyfan.

Mae Wilkinson yn debyg o dorri record Paul Edwards o 157 cap rhyngwladol pan fydd Cymru'n herio Ffrainc mewn cyfres ryngwladol tair-gêm sy'n cychwyn ar 31 Mai.

Gyda'r Pencampwriaethau Ewropeaidd ar y gorwel eleni, bydd y gyfres dair-gêm yma yng Nghanolfan Hoci Cenedlaethol yng Ngerddi Soffia, yng Nghaerdydd, yn chwarae rôl hollbwysig ym mharatoadau'r tîm. Mi fydd S4C yn darlledu'r tair gêm yn fyw ar-lein.

Mi fydd y gêm gyntaf yn cael ei chwarae nos Wener 31 Mai am 6.00pm, gyda'r ail gêm ddiwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn 1 Mehefin, am 5.00pm. Mi fydd gêm ola'r gyfres yn cael ei chwarae am 11.00am ar fore Sul 2 Mehefin.

Mi fydd y tair gêm i'w gweld yn fyw ar wefan S4C, s4c.cymru, ar dudalen Facebook S4C Chwaraeon (gyda sylwebaeth Gymraeg) ac ar dudalen Youtube S4C (gyda sylwebaeth Saesneg). Whisper Films fydd yn cynhyrchu'r rhaglenni ar gyfer S4C.

Dywedodd Leah Wilkinson, capten Cymru: "Rwy'n edrych ymlaen at y gyfres ac mi ydw i'n gobeithio gallaf dorri'r record genedlaethol. Mi ydw i'n angerddol dros hoci am mi fyddaf i'n ddiolchgar am byth am yr holl atgofion rwyf wedi cael yn chwarae dros fy ngwlad."

"Mae'n wych bod S4C yn dangos y gemau yn erbyn Ffrainc ac yn hwb sylweddol i'n gamp."

Dywedodd Ria Male, Prif Weithredwr Hoci Cymru: "Mae'n gyfnod pwysig i hoci yng Nghymru gyda'r merched a'r dynion yn paratoi am Bencampwriaethau Ewrop eleni, ac mi ydyn ni'n ddiolchgar iawn i S4C am fuddsoddi ynom."

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae hoci yn gêm gyflym a chyffrous ac mi ydyn ni'n falch iawn i gyflwyno'r gamp yma i gynulleidfa eang."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?