S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfres yn ennill gwobr yng Ngŵyl New York TV and Film

13 Hydref 2021

Mae cyfres S4C Bethesda: Pobol y Chwarel wedi ennill gwobr yng ngŵyl New York TV and Film.

Enillodd y gyfres gwobr efydd yn y categori i raglenni dogfen sef 'Portreadau Cymunedol'.

Cafodd Bethesda: Pobol y Chwarel ei darlledu ar S4C ym mis Mawrth 2020. Cyfres 'pry ar y wal' oedd hon, yn dathlu pobl y pentref, ac yn clustfeinio ar beth oedd yn digwydd yn eu bywydau.

Mae'n dangos Bethesda, neu 'Pesda' fel mae'r trigolion yn ei alw, fel tref llawn hanes, yn fwrlwm o weithgaredd ac â chymeriadau arbennig - pob un â'i stori; pob un â'i freuddwyd.

Cafodd y llwyddiant ei ddatgan mewn noson gwobrwyo arbennig ar-lein neithiwr (nos Fawrth, 12 Hydref.

Cynhyrchwyd y gyfres gan Nia Parry a Deiniol Morris a'i chyfarwyddo gan Rhodri Davies ar gyfer Boom Cymru.

Yn ôl Nia: "Y peth mwya' arbennig am weithio ar y gyfres oedd y croeso gawson ni a'r fraint o gael adrodd straeon cymeriadau Bethesda. Cymuned glos Gymreig, cymuned sydd wedi'u cysylltu drwy eu perthynas â'r chwarel a'r llechi a'r tirwedd o'u cwmpas. Mae 'na straeon sy'n dangos cyfeillgarwch, entrepreneuriaeth, gobaith, hwyl, ac egni a gwydnwch pobl. Nhw sydd wedi ennill y wobr hon - eu stori nhw ydy hi ac fe fuon ni fel tîm bychan iawn yn freintiedig i gael ei hadrodd hi."

Meddai Rhodri Davies: "Yn Bethesda buon ni'n lwcus i ddarganfod y rhyfeddol yn y lleol, ac mae'r ffaith bod lleisiau'r filltir sgwâr wedi ennill llwyddiant rhyngwladol yn destament i ysbryd unigryw trigolion Dyffryn Ogwen. Fel cyfarwyddwr y gyfres wy'n falch iawn o hynny."

Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C: "Llongyfarchiadau mawr i Nia, Boom Cymru a phawb a wnaeth cymryd rhan yn y cynhyrchiad arbennig hwn. Mae Bethesda: Pobol y Chwarel yn gyfres bwysig iawn, nid unig i gofnodi bywyd go iawn mewn cymuned sy'n wynebau sialensiau enfawr ond hefyd fel darn o hanes cymdeithasol ar gyfer y cenhedloedd sydd i ddod."

Mae gwobrau Gŵyl New York TV and Film yn anrhydeddu cynnwys o bob hyd a ffurf o dros 50 o wledydd. Gan gynnwys pob agwedd o'r diwydiannau teledu a ffilm, mae'r categorïau'n adlewyrchu tueddiadau byd-eang cyfoes gyda'r bwriad o annog y genhedlaeth nesaf o storïwyr.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?