S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyflwyno cwpan er cof am Dai Jones, Llanilar

19 Gorffennaf 2022

Mae S4C wedi cyflwyno cwpan coffa heddiw, er cof am y darlledwr a'r ffermwr poblogaidd Dai Jones Llanilar. Bydd y cwpan yn cael ei gyflwyno i enillwyr y gystadleuaeth Tîm o Bump yn Adran y Gwartheg Bîff, sef hoff gystadleuaeth Dai yn Y Sioe Frenhinol brynhawn ddydd Mawrth 19 Gorffennaf.

Mewn derbyniad arbennig yn adeilad S4C ar faes y Sioe, dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyhoeddi S4C:

"Mae'n gwbwl briodol heddi ein bod ni yn dangos ein diolchgarwch am gyfraniad Dai i ddarlledu, ac i fywyd cefn gwlad drwy gyflwyno'r Cwpan Coffa yma i'r Sioe. 'Y Sioe orau yn y byd', yng ngeirie Dai. Roedd e' wrth ei fodd yn cyflwyno o'r maes, a'i gynhesrwydd naturiol a'i ffraethineb yn gwneud i bawb deimlo'n gwbwl gartrefol yn eu gwmni. Dyna oedd y gyfrinach i lwyddiant cyfres Cefn Gwlad, fu ar S4C ers y dechre, ddeugain mlynedd nol, gyda Dai yn feistr wrth y llyw. Roedd e'n apelio at yr hen a'r ifanc, pobol y wlad a'r dre, ac roedd yn ymgorfforiad o'r gorau o gefn gwlad. O'r clos ffarm i lwyfan 'steddfod, o'r Rasys i'r 'piste', ac o Sion a Sian i'r Sioe. Ma'r byd darlledu a chefn gwlad yn sicr yn dlotach o lawer hebddo."

Yn ystod y derbyniad hefyd cyhoeddodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eu bwriad i greu teyrnged barhaol i Dai Jones.

Meddai John T Davies:

"Ein bwriad yw creu cofeb maint llawn i Dai ar gornel cylch y Gwartheg ger adeilad y Gwartheg Duon Cymreig. Y lleoliad hwn oedd pulpud Dai drwy gydol wythnos y Sioe. Bydd yn gerflun ac yn gofeb addas i Frenin Bywyd Gwledig Cymru'. Mae'r gymdeithas heddiw yn lansio safle Gofund er mwyn caniatáu i unigolion sydd yn dymuno cyfrannu tuag at gost y cerflun maint byw er cof a chyfraniad Dai Jones Llanilar, gwladgarwr a un o ddarlledwyr mwyaf Cymru. "

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?