S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Telerau ac Amodau: Proses Ad-Dalu
Cân i Gymru 2024

1. Mae'r telerau ac amodau canlynol yn berthnasol:

- Telerau Ad-dalu S4C yma

- Telerau ac Amodau Gwefan S4C yma

(cyfeirir at yr uchod i gyd fel y "Telerau"). Wrth gwblhau'r ffurflen ad-dalu rydych yn cytuno i fod yn rhwym i'r holl Delerau perthnasol ac i'r hysbysiad preifatrwydd cysylltiedig.

2. Mae'r Telerau yma yn berthnasol i ad-daliadau yn gysylltiedig â chostau pleidleisio Can i Gymru ar 1 Mawrth 2024 rhwng yr amseroedd agor a chau fel y'u cyhoeddwyd yn ystod y rhaglen fyw.

3. Bydd modd hawlio ad-daliad am bob galwad ag eithrio'r alwad gyntaf.

4. Rhaid dangos tystiolaeth o unrhyw daliad cysylltiedig â'r rhifau ffôn canlynol: 09009510101, 09009510102, 09009510103, 09009510104, 09009510105, 09009510106, 09009510107, ac 09009510108.

5. Rhaid derbyn eich ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn 31 Mai 2024. Ni fyddwn yn medru prosesu ad-daliad ar gyfer unrhyw gais sydd wedi'i dderbyn ar ôl y dyddiad hwn.

6. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y broses at Wifren Gwylwyr S4C drwy anfon ebost at cig2024@s4c.cymru neu drwy alw 0370 600 4141.

7. Byddwch yn cael gwybod os fyddwch yn derbyn ad-daliad neu beidio o fewn 21 diwrnod i dderbyn eich cais.

8. Os cewch wybod nad ydych yn derbyn ad-daliad gallwch gyflwyno apêl drwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr (drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ym mharagraff 6 uchod) S4C o fewn 14 diwrnod i ddiwrnod yr hysbysiad, gan esbonio pam a chyflwyno unrhyw dystiolaeth berthnasol. Fe fydd S4C yn ystyried eich apêl ac yn eich hysbysu o'r canlyniad o fewn 10 diwrnod gwaith i'w dderbyn.

9. Os ydych yn parhau i fod yn anhapus gallwch gysylltu ag Ofcom neu'r Phone-Paid Services Authority (PSA).

10. Nid yw S4C yn gyfrifol am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r broses hon.

11. Drwy gwblhau'r ffurflen ad-dalu rydych yn cytuno, yn cadarnhau ac yn gwarantu:

a. bod yr holl wybodaeth a ddarperir gennych i S4C yn gywir ac yn gyflawn

b. mai chi yw'r bil-dalwr, neu yr ydych wedi cael caniatâd y bil-dalwr i gwblhau'r ffurflen ac/neu i dderbyn ad-daliad ar ei ran neu ar ei rhan.

12. Fe fydd S4C yn gwirio dilysrwydd y ffurflenni derbyniwyd drwy eu cymharu â chofnodion galwadau'r darparwr telebleidleisio. Gall S4C wrthod cais am ad-daliad os oes gennym sail resymol dros gredu nad yw'r cais yn un dilys.

13. Rhaid cwblhau'r ffurflen ad-dalu er mwyn cael eich ystyried am ad-daliad, nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau trwy ddulliau arall. Mae croeso i chi gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C (gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ym mharagraff 6 uchod) os ydych yn cael unrhyw broblem cwblhau'r ffurflen.

14. Nid yw S4C yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau nad ydynt wedi'u derbyn cyn y dyddiad cau oherwydd unrhyw wall, hepgoriad, toriad, dilead, nam nac oedi technegol.

15. Os cewch eich hysbysu eich bod yn derbyn ad-daliad, gallwch ddisgwyl yr ad-daliad i'ch cyrraedd o fewn 28 diwrnod i'ch cais trwy daliad banc neu (ar gais penodol) siec. Caiff yr ad-daliad ei wneud ar sail setliad llawn a therfynol. Fe fydd unrhyw ad-daliadau sy'n ddyledus yn dilyn apêl lwyddiannus yn cael eu talu cyn gynted ag sy'n rhesymol bosib.

16. Mae S4C yn eithrio unrhyw atebolrwydd i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod neu anaf sy'n gysylltiedig â'r broses hon.

17. Oni chytunwyd fel arall, dim ond at ddiben gweinyddu'r broses ad-dalu y bydd S4C yn defnyddio'r data personol a ddarparwyd wrth wneud cais. Bydd unrhyw ddata personol yn ymwneud ag ceisiadau yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data presennol y DU yn unig. Gweler yr hysbysiad preifatrwydd cysylltiedig, ar y cyd â'n Polisi Preifatrwydd S4C (http://www.s4c.cymru/c_privacypolicy.shtml) a Pholisi Diogelu Data S4C (http://www.s4c.cymru/media/media_assets/Polisi_Dio...) am ragor o fanylion.

18. Mae'r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuol llysoedd Cymru a Lloegr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?