Gwerthu Hysbysebion
S4C yw'r unig sianel deledu sy'n gwasanaethu anghenion Cymru'n benodol. Mae'n gyfrwng hysbysebu pwysig ar gyfer targedu'r boblogaeth Gymreig, gan gynnig gwerth am arian ac effeithlonrwydd i hysbysebwyr.
Mae cwmnïau rhyngwladol mawr yn hysbysebu ar S4C, ynghyd â chwmnïau llwyddiannus o Gymru. Mae nifer o gleientiaid yn gweld bod llwyddiant eu hymgyrchoedd yn cynyddu pan fo'r Gymraeg yn cael ei defnyddio i werthu cynnyrch neu wasanaeth.
Mwy o wybodaeth am werthu hysbysebion
Nawdd i RaglenniMae ymchwil yn dangos yn gyson bod gwylwyr yn ystyried nawdd i raglenni yn wahanol i hysbysebu confensiynol. Trwy noddi rhaglenni o safon uchel ar S4C mae nifer o gwmnïau mawr wedi codi eu proffil yn sylweddol ymysg gwylwyr.
Mwy o wybodaeth am noddi rhaglenni
Gwerthu RhaglenniErs 1982 mae S4C wedi cael llwyddiant mawr wrth werthu rhaglenni - animeiddio a rhaglenni dogfen yn bennaf - i ddarlledwyr ledled y byd. Animeiddiad S4C, SuperTed, oedd y gyfres Brydeinig gyntaf erioed i'w darlledu gan Disney yn yr Unol Daleithiau. Mae Sali Mali, Chwedlau'r Byd wedi'u Hanimeiddio a Holi Hana wedi'u gwerthu i Israel, Sweden a Hong Kong, ymhlith gwledydd eraill. Mae S4C yn parhau i ddosbarthu rhai rhaglenni, ond ers Adolygiad Telerau Masnach 2005/2006, y cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy'n dal yr hawliau i werthu eu rhaglenni yn rhyngwladol.
Cyd-gynyrchiadauMae gan S4C enw da ym maes cyd-gynhyrchu ac mae wedi gweithio gyda darlledwyr ledled y byd - gan gynnwys Discovery, A & E, ZDF a New York Times Television - ar amryw o gyd-gynyrchiadau llwyddiannus. Rhaglenni dogfen ac animeiddio yw'r prif fathau o raglenni a gyd-gynhyrchwyd.