Mae gan y Panel Cwynion swyddogaeth yn unol â Phroses Gwynion S4C i ystyried cwynion yn ymwneud â materion cydymffurfiaeth neu reoleiddio mewn perthynas â chynnwys S4C, neu gwynion yn ymwneud â materion eraill pan fydd y cwynwyr am gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Prif Weithredwr.
(Noder y gellir cyflwyno cwynion ynghylch cynnwys a ddarlledir ar wasanaeth teledu S4C i S4C neu Ofcom, ond mai S4C sy'n gyfrifol am ystyried cwynion yn ymwneud â chynnwys a ddarlledir ar blatfformau eraill gan S4C).
Aelodau'r panel