S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cyfarfodydd Sector | Ebrill 2024

Byddwn yn cynnal dau gyfarfod sector mis Ebrill. Fe fydd yr un cyntaf yn cael ei gynnal ar y 10 Ebrill yng Nghaerfyrddin a'r ail yn cael ei gynnal ar y 16 Ebrill yng Nghaernarfon.

Fydd y cyfarfod yn cynnwys amlinelliad o ofynion S4C ar gyfer 2025 / 2026 gan bob comisiynydd. Fe fydd hefyd sesiwn banel gyda'r tîm comisiynu i ateb unrhyw gwestiwn.

Dyma fwy o wybodaeth am y cyfarfodydd:

10/04/24

Yr Egin, Caerfyrddin

10:00 - tê/coffi

10:30 - 13:00 - cyfarfod sector

14:00 – cyfle i gael cyfarfodydd 1-2-1 gyda'r comisiynwyr (cysylltwch gyda lois.thomas@s4c.cymru am slot 10 munud)

16/04/24

Y Galeri, Caernarfon

10:00 - tê/coffi

10:30 - 13:00 - cyfarfod sector

14:00 – cyfle i gael cyfarfodydd 1-2-1 gyda'r comisiynwyr (cysylltwch gyda lois.thomas@s4c.cymru am slot 10 munud)

Os ydych yn bwriadu mynychu un o'r cyfarfodydd sector, oes modd i chi lenwi'r ffurflen isod erbyn y 28 Mawrth i gadarnhau os gwelwch yn dda:

forms.office.com/e/mrK3ieZgUy

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, croeso i chi gysylltu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?