S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tai Haf: Sefyllfa waeth heddiw nag 20 mlynedd yn ôl?

15 Medi 2020

Diwydiant glo, llechi neu ddur - mae Cymru wedi cael ei hadnabod fel gwlad ddiwydiannol lewyrchus ers canrifoedd. Ond yn fwy diweddar, mae'r diwydiant twristiaeth wedi ffynnu ym mhob cornel o'r wlad.

Gall fod yn hwb i fusnesau lleol - ond ydi'r pris am hyn yn ormod i'w dalu i'n cymunedau Cymreig? Pa mor bell ydi rhy bell wrth ddenu twristiaid i'r wlad?

Dyma fydd yn cael ei drafod nos Iau am 9.00 o'r gloch mewn pennod arbennig o Pawb a'i Farn yng nghwmni Betsan Powys ar S4C.

"Fi wedi gweithio ar raglenni ynglŷn â'r sefyllfa tai haf yng Nghymru 20 mlynedd yn ôl. Nawr, 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae niferoedd y tai haf wedi codi a chodi, a dyw'r atebion ddim fel pe tai nhw yno o hyd," meddai Betsan.

Er bod y broblem yn un mae ardaloedd gwyliau traddodiadol Cymru wedi ei brofi ers degawdau, nawr, yn ôl Betsan, mae'r sefyllfa yn lledaenu.

"Erbyn hyn, ni'n edrych ar ardaloedd oedd ddim yn wynebu'r broblem 20 mlynedd yn ôl, ond maen nhw nawr. Mae'r ffigyrau diweddar yn dangos twf yn nifer y tai haf, ond hefyd yn dangos bod yr ardaloedd dan sylw yn ehangu ymhell erbyn hyn o'r arfordir.

"Mae'r ardaloedd ble mae'r tai sy'n cael eu prynu ar gyfer Airbnb neu dai haf yn lledaenu. Ugain mlynedd yn ôl, roedd y sefyllfa yn argyfwng i'r iaith, ond y tro hyn, mae'n fwy na hynny. Mae'n fater economaidd. Ble fyddwn ni mewn 20 mlynedd arall?"

Ond fel pob dadl, dyw'r sefyllfa ddim yn ddu a gwyn.

"Mae 'na deimladau cryfion ar bob ochr," ychwanegodd Betsan. "Mae 'na rai sy'n teimlo fel bod twristiaeth a thai haf yn allweddol i ddyfodol economi cefn gwlad, ond eraill yn credu ei fod yn ei ddinistrio. Bydd Pawb a'i Farn yn rhoi lle i ni drafod y ddadl yn agored.

"Dyma gyfle'r bobl i groesholi. Oes angen mwy o reolau, mwy o drethi? Oes 'na ardaloedd, neu wledydd eraill sy'n llwyddo'n well i gydbwyso gwerth economaidd a dyfodol cymunedau? Neu ai'r gwir plaen yw bod angen yr arian ar Gymru, a dyna ni? Os oes gyda chi gwestiwn uniongyrchol, holwch e, os oes gennych chi farn, rhannwch e."

Bydd y rhaglen yn croesawu gwesteion o'r sector tai a thwristiaeth a gwleidyddion lleol a chenedlaethol i leisio'i barn. I gyfrannu, neu i holi cwestiwn ynghylch â'r mater, cysylltwch â chwmni teledu Tinopolis ar pawbaifarn@tinopolis.com.

Pawb a'i Farn, nos Iau am 9.00 ar S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?