S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon gydag ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth

1 Hydref 2020

Gyda mis Hydref yn cael ei gydnabod fel Mis Hanes Pobl Dduon mae S4C wedi cyhoeddi ymrwymiad i gynyddu cynrychiolaeth o gefndiroedd BAME a hynny ar y sgrin a thu ôl i'r camera.

Yn ogystal, bydd y sianel yn darlledu cyfres o eitemau a chomisiynau newydd yn ystod y mis yn trin, trafod a dathlu hanes pobl dduon yng Nghymru.

Yn rhan o'r arlwy mae pedair ffilm fer wedi ei chomisiynu dan frand Chwedloni, gan ddechrau ar 8 Hydref.

Yn y ffilmiau bydd Cymry led led y wlad yn trafod beth mae'n olygu i fod yn ddu ac yn siarad Cymraeg, ac yn rhannu straeon a hanes unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu at y Gymru gyfoes yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

Bydd un ffilm yn cael ei darlledu bob nos Iau yn ystod mis Hydref toc cyn y Newyddion am 7.30.

Bydd rhaglen nosweithiol Heno hefyd yn cynnwys eitemau drwy gydol y mis. Bydd Natalie Jones o San Clêr, yn cyflwyno ac yn tynnu sylw at straeon a chyfraniadau pobl ddu i hanes Cymru.

Bydd yr eitemau yn cynnwys darn ar Nathaniel Wells, mab i ddyn busnes o Gaerdydd a ddaeth yn ynad heddwch a'r person du cyntaf i fod yn siryf ym Mhrydain.

Bydd hefyd eitem ar John Ystymllyn sef caethwas ddaeth o Orllewin Affrica i Ynyscynhaiarn yng Ngwynedd. Yn ogystal bydd eitem am y chwaraewr rygbi Billy Boston sy'n dal record am sgorio ceisiau i Wigan.

Bydd Nathan Brew yn trafod sut wnaeth Billy Boston ddioddef hiliaeth o fewn rygbi yng Nghymru. Bydd hefyd eitem yn edrych ar fywyd Betty Campbell, oedd yn bennaeth ar Ysgol Mount Stuart, Caerdydd a hi oedd y pennaeth du cyntaf mewn ysgol yng Nghymru.

Bydd Natalie yn sgwrsio am yr holl eitemau hyn sydd i ddod ar Heno Nos Iau 1 Hydref.

Bwriad Mis Hanes Pobl Dduon yw dathlu cyfraniadau pobl ddu nid yn unig ym Mhrydain, ond ledled y byd gan hefyd addysgu'r cyhoedd ar hanes pobl dduon.

Mae S4C eisoes yn y broses o hysbysebu am Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant er mwyn pontio rhwng y sianel a'r cymunedau hynny sy'n ansicr am weithio yn y sector deledu Cymraeg.

Bydd y rôl yn adeiladu ac yn cynyddu perthynas y sianel â'r cymunedau ac yn dod â phobl i mewn i'r sector i weithio, ac i fod yn rhan amlwg o'r cynnwys sydd wedi'i wneud ar gyfer S4C hefyd.

Yn ogystal, mae'r sianel wedi cysylltu'r ymrwymiad hwn â'i strategaeth hyfforddi a sgiliau i ddarparu llwybr clir, hirdymor i'r sector gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae S4C hefyd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys Screen Alliance Wales i gyrraedd plant a phobl ifanc o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gyda'r nod o danio diddordeb mewn dod i weithio i'r sector.

"Mae'r holl sylw i ymgyrch Black Lives Matter yn ddiweddar wedi rhoi'r sbardun i ni ymrwymo'n llawn i gynyddu cynrychiolaeth y gymuned BAME ar sgrin a thu ôl i'r camera." meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C

"Mae'n holl bwysig bod S4C yn cymryd yr agenda o sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector teledu Cymraeg o ddifri.

"Gan adeiladu ar ein gwaith i sicrhau cyfleoedd i bawb o holl gymunedau Cymru yn y diwydiant, mae'n allweddol i ni ddeall yn well sut i gyfathrebu a gweithio gyda chymunedau amrywiol y wlad.

"Â ninnau'n gorff cyhoeddus, rhaid inni arwain drwy esiampl."

"Rwy'n falch iawn ein bod yn darlledu cynnwys i nodi Mis Hanes Pobl Dduon eleni ac yn ymrwymo'n llawn i wella ein cynrychiolaeth o'r gymuned BAME yng Nghymru."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?