S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cân i Gymru 2021 yn mynd yn ei flaen

6 Tachwedd 2020

Wrth i sawl gŵyl a digwyddiad gael eu gohirio eleni, bydd cryn edrych ymlaen at gystadleuaeth eiconic Cân i Gymru.

Bydd Cân i Gymru 2021 yn cael ei lansio ar Ddydd Gwener, 6 Tachwedd, ar raglen Heno. Fel rhan o'r adloniant bydd enillydd Cân i Gymru 2020, Gruffydd Wyn, yn ymuno â Elin Fflur i drafod ei brofiad o ennill y gystadleuaeth.

Cafodd Cyn i'r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn o Amlwch ei ddewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr rhaglen Cân i Gymru 2020 ar S4C ym mis Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae Gruffydd Wyn yn berfformiwr profiadol a ddaeth i amlygrwydd ar y gyfres Britain's Got Talent pan gyrhaeddodd y rowndiau olaf ac ennill golden buzzer y beirniad Amanda Holden.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu yn 2021 a bydd digon o gyfle i ymuno yn yr hwyl o'r tŷ.

Mae Siôn Llwyd, o gwmni Avanti, sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar gyfer S4C, yn sicr bydd 2020 yn siŵr o ysbrydoli cantorion a chyfansoddwyr Cymru i gyfansoddi caneuon arbennig ac unigryw iawn:

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i'r celfyddydau, yn enwedig i gerddorion a chyfansoddwyr, ac rydym yn gobeithio bydd y llwyfan arbennig yma a'r cyfle am wobr ariannol yn rhoi hwb a ffocws i gyfansoddwyr a cherddorion ar gyfer y dyfodol."

Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi cael ei chynnal ers 1969 ac mae'n gyfle i gyfansoddwyr gynnig caneuon gwreiddiol am gyfle i ennill gwobr ariannol. Margaret Williams, Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Elin Fflur - dyma rhai o gewri'r byd adloniant yng Nghymru sydd wedi ennill Cân i Gymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Dyddiad cau ar gyfer Cân i Gymru 2021 yw 3 Ionawr 2021 am 10 o'r gloch y nos. Am y manylion yn llawn, cofiwch wylio rhaglen Heno ar nos Wener, 6 Tachwedd. Mae ffurflen gais ar gael ar wefan S4C:

Ychwanegodd Siôn:

"Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth sydd wedi bod yn uno teuluoedd o flaen y teledu ers dros hanner can mlynedd ac mae'r cyffro sydd ynghlwm â chystadlu yn un unigryw iawn.

"Pwy fydd y nesa i hawlio'i lle yn hanes Cân i Gymru?"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?