S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Merched Parchus ar gael i'w wylio yn yr Almaen, Swistir ac Awstria

16 Tachwedd 2020

Bydd y gyfres S4C Original, Merched Parchus, ar gael i'w wylio yn yr Almaen, y Swistir ac Awstria ar ôl i'r hawliau darlledu gael eu prynu gan blatfform ffrydio Ewropeaidd.

Yn dilyn cytundeb rhwng S4C, ie ie Productions a cwmni gwerthiannau Videoplugger, mi fydd y gyfres ddrama ar gael ar y chwaraewr ffilmiau a chyfresi newydd, SOONER.

Fe ymddangosodd y gyfres arloesol yma fel bocs set ar S4C Clic yn wreiddiol, cyn ymddangos ar y brif sgrin wythnos yn ddiweddarach.

Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Hanna Jarman a Mari Beard, sydd hefyd yn actio rôl dwy o'r prif gymeriadau.

Fe gafodd Merched Pacrhus ei henwebu ar gyfer y wobr Drama Orau yng Ngwobrau Broadcast Digital 2020 a Gwobrau RTS Cymru 2020, yn ogystal â'r gwobrau Torri Trwodd ac Awdur Orau yn BAFTA Cymru 2020.

Merched Parchus yw'r ail gyfres ddrama S4C Original i gael ei gynnwys ar blatfform SOONER, wedi i Byw Celwydd hefyd cael ei werthu yn gynharach eleni.

Ymysg y rhaglenni eraill sy'n dod dan faner S4C Original mae'r dramâu, Un Bore Mercher (Vox Pictures) a Bang (Joio ac Artists Studio), y gyfres adloniant Priodas Pum Mil (Boom Cymru) a'r rhaglen a enillodd y wobr Cyfres Orau yng Ngwobrau BAFTA Plant, Prosiect Z (Boom Cymru).

Meddai Hanna Jarman, sydd yn chwarae Carys yn y ddrama: "Rydyn ni wrth ein boddau bod ein gwaith yn cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd.

"Mae'r Gymraeg yn iaith lleiafrifol ac mae'n wych fod yna farchnad arall i gynnwys iaith Cymraeg ac ein bod ni'n gallu rhannu ein gwaith gyda gwledydd eraill.

"Mae Merched Parchus yn stori am ferch sydd yn gwahanu gyda'i chariad hir dymor.

"Mae hi'n canfod cysur wrth wrando ar bodlediadau trosedd a ffantasi tywyll, wrth iddi geisio dygymod â bywyd fel oedolyn.

"Mae'r teimlad o fod ar goll a cheisio canfod ffordd drwy fywyd yn rhywbeth all bawb uniaethu gyda, ac rydyn ni'n gobeithio gwnaiff fwy o bobl fwynhau dilyn siwrnai Carys."

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae'n ffantastig i weld Merched Parchus yn ymuno â'r trend diweddar o gynnwys iaith Cymraeg dan y faner S4C Original gan gyrraedd cynulleidfaoedd byd eang.

"Mae Merched Parchus yn enghraifft o S4C ar ei orau - drama digidol-gyntaf wedi ei greu gan ferched talentog o Gymru, sydd yn heriol, ac yn ennyn emosiwn.

"Ry'n ni'n hynod o falch bod y gyfres hon yn cael ei rhannu gyda chynulleidfaoedd ledled Ewrop."

Mae SOONER yn blatfform ffilm a chyfresi sydd ar gael i'w ffrydio drwy thanysgrifio neu fel rhaglenni ble mae modd talu amdanynt yn unigol.

Mae SOONER yn cael ei reoli gan gwmni o Ffrainc a'r Almaen o'r enw ContentScope.

Dywedodd Andreas Wildfang, Prif Weithredwr ContentScope GmbH: "Mae rhaglenni SOONER wedi eu hanelu tuag at bobl sydd wir yn mwynhau ffilmiau a chyfresi soffistigedig.

"Rydyn ni'n rhoi sylw i raglenni dogfen a fformatau cyfresol, yn ogystal â ffilmiau y tu allan i'r brif ffrwd ac mae Merched Parchus, gan Clair Fowler, yn enghraifft wych o hynny."

Dywedodd Emanuelle Galloni, Prif Weithredwr Videoplugger: "Mae Videoplugger yn parhau i werthu cynnwys Cymraeg safonol i'r byd.

"Mae Merched Parchus yn gyfres ysgafn, sydd wedi ei saethu yn Gymraeg a Saesneg, ac yn esiampl gwych o'r math o gynnwys arloesol rydyn ni'n edych amdano, gyda gwerthoedd cynhyrchu uchel ac actio heb-ei-ail."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?