S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Nadolig 2020 ar S4C - Dewch i fwynhau gwledd o raglenni

18 Rhagfyr 2020

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i ddweud y lleia' ac yn bendant fe fydd y Nadolig yn wahanol iawn eleni.

Ond un peth na fydd yn newid yw'r wledd o raglenni y bydd S4C yn eu ddarparu i ddiddanu a dathlu dros yr ŵyl.

Bydd chwaraeon hefyd yn rhan ganolog o'r amserlen dros y Nadolig, gyda gemau darbi byw o'r Guinness PRO14 ar Clwb Rygbi, a gemau pêl-droed byw o'r JD Cymru Premier ar Sgorio.

Felly caewch y drws, cwtshwch mewn gyda phlât o fins peis a gwydryn o rywbeth blasus a mwynhewch ....

Promo Nadolig S4C 2020

SOL

Nos Lun 21 Rhagfyr, 6.30

Mae'r ffilm Sol yn adrodd stori bachgen ifanc sydd wedi cael ei daflu mewn i'r tywyllwch ar ôl iddo golli ei Nain yr oedd yn ei charu'n fawr iawn. Mae Sol yn cael ei anfon ar daith er mwyn dychwelyd â'r goleuni i fyd sydd yn tywyllu.

Mae ei daith yn mynd ag e drwy dirlun eang wedi ei greu o atgofion Nain – gyda lluniau wedi eu casglu o'i halbwm ffotograffau.

Mae e'n cael ei dywys gan Nain sy'n ferch fach ac yn dod o hyd iddi mewn sawl cyfnod arall yn ystod ei bywyd. Ar ddiwedd y daith, mae Sol yn cyrraedd Cromlech yr Haul, ac yn dod o hyd i'w Nain sydd yn aros iddo yno. Sylweddola ei fod yn gallu derbyn ei deimladau o alar gan fod ei deimladau o gariad tuag ati yn llawer fwy na phoen ei golled.

Comisiynwyd Sol gan ddarlledwyr Celtaidd S4C, TG4 a BBC Alba. Gobeithir y bydd y ffilm animeiddiedig hon yn dod â goleuni a chysur i deuluoedd â phlant ifanc wrth i'r flwyddyn mwyaf tywyll yn ein hanes diweddar ddirwyn i ben.

'Dolig Epic Chris

Nos Lun 21 Rhagfyr, 8.00

Yn y bennod Nadoligaidd hon, mae Chris 'Flamebaster' Roberts yn helpu achos sy'n agos at ei galon (a'i stepen drws), Porthi Pawb. Wedi'i sefydlu yn sgil y pandemig, mae'r grŵp cymunedol yng Nghaernarfon yn darparu prydau bwyd i aelodau bregus ac oedrannus o'r gymuned.

Erbyn hyn, mae'r criw bach o wirfoddolwyr yn coginio hyd at 650 o brydau blasus yr wythnos - pob un ohonynt yn cael eu paratoi a'u dosbarthu o ffreutur ysgol uwchradd flaenorol Chris, Ysgol Syr Hugh Owen. Gyda thymor yr ŵyl rownd y gornel, mae'r tîm gweithgar wedi gofyn i'r cogydd am ffafr - gwyliwch wrth i Chris danio'r barbeciw ar ei hen iard chwarae, cyn dosbarthu bwyd calonnog i gymeriadau o'i hoff gymdogaeth, Twthill!

Bydd y gyfres newydd o Bwyd Epic Chris yn dechrau ar Nos Lun 28 Rhagfyr. (Cynhyrchiad Cwmni Da)

Carol yr Ŵyl

Nos Lun 21 Rhagfyr, 9.00

Ers dros ugain mlynedd mae Carol yr Ŵyl wedi profi i fod yn gystadleuaeth boblogaidd, gydag ysgolion cynradd led led Cymru yn cystadlu am y teitl a'r tlws arbennig, wrth gyfansoddi carol neu gân Nadolig newydd sbon. Eleni, yn sgil Covid, fe fydd y gystadleuaeth yn wahanol. Dyma gyfle i glodfori a gwobrwyo Gorau'r Goreuon!

Fe fydd holl enillwyr y gystadleuaeth yn mynd benben â'i gilydd, a dau feirniad - Mari Lloyd Pritchard a Huw Foulkes - yn penderfynu yn gyntaf pwy fydd ar y rhestr fer o ddeg cân neu garol, cyn penderfynu ar y dair sy'n dod i'r brig.

Bydd hefyd cyfle i fynd yn ôl i'r ysgolion sydd wedi cyrraedd y brig yn y gorffennol. Cawn weld ambell i wyneb cyfarwydd ymhlith y cyn-ddisgyblion sydd bellach wedi mynd ati i wneud gyrfa yn y byd perfformio. (Cynhyrchiad Tinopolis).

Prosiect Pum Mil

Nos Fawrth 22 Rhagfyr 9.00

Banc Bwyd Llandysul sy'n cael sylw Trystan ac Emma i gloi'r gyfres arbennig hon, ac mae'r prosiect hwn yn un amserol tu hwnt wrth i'r banciau bwyd gynnig gwasanaeth pwysicach nag erioed o'r blaen.

Meddai Sian ap Gwynfor, "Ro ni eisiau gwneud mwy na llenwi boliau – cynnig clust, paned, sgwrs rownd y ford. Ar ôl dechrau cynnwys ryseitiau am brydau cloi a swmpus, roedd galw am gyngor ar eu paratoi."

Ychwanegodd ei gŵr, y gweinidog Guto Prys ap Gwynfor, "Doedd cyflwr y gegin ddim ond yn caniatáu rhedeg dŵr neu wneud pot o de a'r festri yma yng Nghapel Seion yn oer a llwm."

A fydd modd creu lle cysurus i drigolion Llandysul? A hynny mewn pryd i gasglu'r hamperau Nadolig?

Meddai Emma, "Mae'n fraint gwneud pob Prosiect, ond roedd gweld yr angen a'r gwaith sy'n mynd mewn i'r banc yn agoriad llygaid. Mae'n braf gorffen blwyddyn anodd i bawb yn gweld cymunedau'n cefnogi ei gilydd." (Cynhyrchiad Boom Cymru)

Pobol y Cwm:

Nos Fawrth 22 Rhagfyr; Noswyl Nadolig; Dydd Nadolig, 8.00

Mae llawer o gwympo mas wedi bod rhwng trigolion Cwmderi yn yr wythnosau yn arwain at y Nadolig. Mae Britt yn gweld eisiau ei brawd bach Garry Monk yn arw ers iddo ddiflannu o'r Cwm ym mis Hydref. Mae Colin a Britt yn ffraeo am Garry a Colin yn troi at ei hen ffrind Eileen am gysur. Ond mae Eileen yn barod i gynnig mwy na'i chyfeillgarwch. A fydd Colin yn anffyddlon i Britt?

Tybed gall Siôn White dynnu'r gymuned at ei gilydd ar ôl blwyddyn anodd iawn? Mae'n awyddus i drefnu digwyddiad cymunedol i ddathlu'r 'Dolig ond mae rhywun yn dwyn ei syniad! Mae Cassie yn meddwl fod rhywun wedi torri i mewn i'r tŷ ond mae'n cael sypreis enfawr wrth ddarganfod nad byrgler sydd yno ond wyneb cyfarwydd iawn. (Cynhyrchiad BBC Cymru i S4C)

Rownd a Rownd

Nos Fawrth 22 Rhagfyr a Noswyl Nadolig, 24 Rhagfyr, 8.25

Mae hi'n 'Ddolig cythryblus i rai o griw Rownd a Rownd. Er bod Iolo a Mathew yn amau fod rhywbeth mawr yn poeni Aled nid yw Iolo'n rhoi dau a dau efo'i gilydd nes bod Barry a Carys yn Copa.

Mae Barry ar dân eisiau prynu Copa, ac er iddo ddod i ddeall am affêr Carys ac Aled, mae'n cadw'n dawel am y peth. (Cynhyrchiad Rondo Media)

Dolig Ysgol Ni: Maesincla

Nos Fercher 23 Rhagfyr, 8.00

Mae plant Ysgol Maesincla yn ôl! Ar ôl ennill y wobr Cyfres Ffeithiol orau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, cawn ddathlu'r Nadolig yng nghwmni plant (ac athrawon!) Ysgol Maesincla wrth iddyn nhw berfformio sioe Nadoligaidd arbennig.

Gyda chaneuon Nadolig adnabyddus, ond yr oll yng ngeiriau'r plant, mae cyfeirio at gamel yn "Geffyl 'fo dau bump" a "grefi piws i fi, favourite yn tŷ ni" yn hollol naturiol i griw Maesincla.

Mae'r plant yn diolch i weithwyr allweddol fel y nyrsys, staff cartrefi'r henoed, yr heddlu yn ogystal â'u rhieni am eu gofal yn ystod y flwyddyn. I blant Maesincla, nid anrhegion yw'r peth pwysicaf eleni, ond fod Mam a Dad yn saff ac yn iach, a bod y teulu i gyd gyda'i gilydd.

Dyma raglen llawn hwyl a chwerthin (ac ambell ddeigryn!) gyda wynebau cyfarwydd, llawn direidi a gonestrwydd criw Maesincla wrth i ni ddathlu gwir ystyr y Nadolig. (Cynhyrchiad Darlun)

Ken Hughes yn cadw 'Dolig i fynd

Noson Nadolig 25 Rhagfyr, 7.00

Nôl a ni i'r byngalo clud at y cymeriad hoffus o Gricieth, Ken Hughes, wrth iddo geisio cadw 'Dolig i fynd.

Gyda'r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod unig i'r rhai sy'n byw eu hunain, mae Ken yn benderfynol o gael hwyl dros yr ŵyl trwy wahodd Cymru gyfan i dreulio'r Nadolig yn ei gwmni.

"Fy mwriad yw codi calonnau a dangos beth yw gwir ystyr y Nadolig. Mi fyddai'n rhannu anrhegion gyda'r cyfeillion sydd wedi bod yn gefn i mi trwy flwyddyn a dathlu'r ffaith fod gobaith. Mae Elis nôl yn y garej, ond mae'n llety bach mwy moethus tro hyn. Dwi wedi ei addurno iddo hefyd. Dwi'n cael sawl her gan fy ffrindiau - gobeithio bydd pawb yn mwynhau gwylio cymaint â dwi wedi mwynhau'r profiad."

Ond nid Ken yn unig sy'n lledaenu llawenydd – tybed pwy fydd yr ymwelydd arbennig sy'n codi gwên ar wyneb y dyn ei hun? (Cynhyrchiad Darlun)

Mastermind Selebs Cymru

Noson Nadolig 25 Rhagfyr, 9.00

Mae rhai o wynebau cyfarwydd Cymru yn gobeithio serenu wrth i S4C ddod a chwis mwyaf adnabyddus y byd i gartrefi Cymru dros yr Ŵyl.

Mewn rhaglen arbennig o Mastermind Selebs Cymru ar ddydd Nadolig, bydd rhai o enwogion Cymru yn rhoi cynnig arni yn y gadair ddu enwog, ac yn datgelu stôr o wybodaeth mewn meysydd digon annisgwyl.

Y selebs dewr fydd yn herio'r gadair ddu yw'r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, y gohebydd chwaraeon a'r gyflwynwraig Catrin Heledd, yr actores Carys Eleri, yr awdur a'r llenor Anni Llŷn a'r cyflwynydd Ameer Davies-Rana.

Betsan Powys fydd yn holi'r cwestiynau gyda rownd gwybodaeth gyffredinol a rownd pwnc arbenigol, ond pwy fydd wedi dewis Strictly Come Dancing, Tîm Rygbi Cymru 1969-1979, Llyfr Mawr y Plant a Star Wars? A phwy ar ddiwedd y rhaglen, fydd yn hawlio tlws arbennig Mastermind Selebs Cymru? (Cynhyrchiad BBC Studios Adloniant a Cherddoriaeth)

Nadolig Al Lewis

Noson Nadolig 25 Rhagfyr, 9.45.

Ar noson Nadolig, bydd y canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis yn mynd â ni ar daith bersonol gerddorol o Ben Llŷn i Gaerdydd.

Bydd Al yn perfformio rhai o hoff ganeuon Nadoligaidd y genedl, ochr yn ochr â wynebau cyfarwydd fel Kizzy Crawford, Côrdydd a Gwenan Gibbard mewn lleoliadau unigryw ledled Cymru.

Bydd Al hefyd yn rhannu beth mae amser y Nadolig yn ei olygu iddo ef. Meddai Al, "Mi oedd hi'n bleser pur teithio o gwmpas Cymru a pherfformio efo cerddorion a ffrindiau ar ôl cyfnod mor llwm i ni gyd.

"Ro'n i wrth fy modd yn cyd-ganu unwaith eto ac atgoffa'n gilydd pam fod y Nadolig mor bwysig. Gobeithio bydd y rhaglen yn dod a gwên i wynebau'r gwylwyr wrth iddynt gyd-ganu'r hen ffefrynnau efo fi o'u cartrefi!".

Mae'r wledd gerddorol hon yn argoeli i fod yn ffordd wych i ddathlu'r Nadolig ac i godi canu yng nghartrefi Cymru gyfan. (Cynhyrchiad Avanti)

Rownd a Rownd: 'Dolig Mr Lloyd

Diwrnod San Steffan 26 Rhagfyr, 8.00

Fel rhan o ddathliadau Rownd a Rownd yn 25 oed eleni bydd pennod ychwanegol, arbennig yn gweld wynebau hen a newydd o'r gyfres yn dod at ei gilydd i geisio codi calon Mr Lloyd dros Yr Ŵyl.

Yn ei anobaith a'i unigrwydd caiff Mr Lloyd ei atgoffa gan rai o hoff gymeriadau'r gyfres dros y blynyddoedd, o wir ystyr cymuned ac nad oes rhaid i'r Nadolig fod yn gyfnod unig yn enwedig pan fo gennych gwmni ffrindiau a chân o amgylch y piano. (Cynhyrchiad Rondo Media)

Gan bawb o S4C – Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?