S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wythnos o raglenni yn dathlu traethau Cymru ar S4C

29 Mehefin 2021

Byddwch yn barod i fynd ar drip i lan y môr.

Am wythnos gyfan bydd S4C yn cynnig gwledd o raglenni difyr yn dathlu traethau gorau Cymru.

Rhwng 12-17 Gorffennaf, trwy raglenni dogfen, materion cyfoes ac adloniant, cawn fwrw golwg ar rai o lannau môr hyfrytaf Cymru, a bydd un ohonynt yn lleoliad i raglen fyw go arbennig o Priodas Pum Mil.

"Mae harddwch ein stepen drws wedi dod yn fwy amlwg i ni nag erioed o'r blaen yn ystod y flwyddyn ryfeddol ddiwethaf." meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C.

"Ry'n ni eisiau dathlu hynny drwy greu wythnos gyfan o raglenni yn ymwneud â thraethau godidog Cymru.

"Mae na ryw swyn arbennig yn ogystal â hanes a thraddodiadau cyfoethog i'n glannau mor ni a bydd y cyfan yn cael eu gweld, a'u ddathlu yn ystod wythnos Traethau Cymru S4C.

"Y gobaith yw gwneud i'n gwylwyr deimlo'r wefr o dywod rhwng eu traed heb iddynt orfod gadael eu stafell fyw. Dewch gyda ni felly, lawr i lan y môr!".

Yn dechrau'r wythnos ar nos Lun 12 Gorffennaf bydd pennod arbennig awr o hyd o Sgwrs Dan y Lloer.

Ar draeth hynod y Gŵyr, gyda thanllwyth o dân a'r sêr yn gwmni, fe fydd Elin yn cael hanes gyrfa a bywyd lliwgar y digrifwr a'r canwr o Glyn Nedd, Max Boyce.

Bydd DRYCH:Y Bermo ar nos Fawrth 13 Gorffennaf yn rhaglen ddogfen fydd yn dilyn trigolion y dref glan môr sydd yng nghysgod Cadair Idris.

O Steve Donks a'i asynnod a'i drampolîns i dîm cychod achub yr arfordir; Will a'i siop jîps; Vic a'i fferins a'i rocs i chwiorydd sy'n rhannu amser arbennig yn eu bywydau, cawn ddilyn hwyl y Cymry wrth eu gwaith a'u bywydau.

A chawn weld sut mae gwreiddiau ei phobl wedi helpu siapio Bermo a sut mae'n newid gyda'r amseroedd newydd yma.

Cawn ein tywys ar hyd pedair taith arfordirol ddifyr ar Am Dro: Ar Lan y Môr ar 14 Gorffennaf.

Bydd Diane o Borthaethwy, sy'n Nain yn ei 50au yn arwain y criw o gerddwyr o draeth Benllech i Foelfre, Ynys Môn; taith o Borth Ceiriad i Machroes, Abersoch fydd gan Larissa sy'n 23, ac yn gweithio yn y diwydiant harddwch.

Ail-fyw atgofion ei blentyndod o wyliau carafán gyda'i Fam-gu a'i Dad-cu fydd Paul wrth dywys y tri arall ar daith yn ardal Porthcawl.

Bydd digonedd o hwyl i'w gael yng nghwmni'r cymeriad sydd o'r Rhondda'n wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Bognor Regis ac yn gweithio fel 'Red Coat' yn Butlins.

Taith o fferm Treginnis i Draeth Mawr, ger Tyddewi, sir Benfro fydd gan yr athro Dewi. Mae'r criw yn dod yn ffrindiau ar hyd y ffordd ond tybed a fyddan nhw'n parhau'n ffrindiau erbyn y marcio?

Bydd pennod arbennig o Cynefin ar 15 Gorffennaf yn canolbwyntio ar Nefyn, Pen Llŷn a'r ardal.

Wrth i Heledd Cynwal ddysgu am hanes morwrol cyfoethog y lle drwy ddilyn ôl troed y llongwyr, caiff flasu penwaig a mynd allan ar y môr i godi cewyll cimychiaid.

Bydd Iestyn Jones yn mynd ar antur wrth ddeifio oddi ar arfordir Porthdinllaen ar drywydd morwellt arbennig sy'n tyfu yno, a bydd Siôn Tomos Owen yn adrodd hanes pererinion yr ardal a sianti boblogaidd Fflat Huw Puw.

Yn goron ar yr wythnos bydd Priodas Pum Mil o'r Traeth - rhaglen arbennig iawn o Priodas Pum Mil.

Bydd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn eu holau gyda her go anarferol – trefnu priodas byw ar un o draethau gogoneddus Cymru.

Dewiswyd y pâr cariadus, Siân a Stuart o'r Groeslon, ger Caernarfon gan y cyhoedd nôl ym mis Mai drwy bleidlais ar wefan cymdeithasol Facebook.

Bydd y digwyddiad yn un llawn hwyl a sypreisys, a bydd ambell wyneb cyfarwydd yn rhan o'r dathlu i sicrhau diwrnod bythgofiadwy i'r cwpwl.

"Dychmygwch leoliad hudol wedi ei addurno'n fendigedig" meddai Emma Walford.

"A dychmygwch adloniant o'r radd uchaf gan un o gantorion enwocaf ein gwlad. Mae hyd yn oed sôn bod cogydd godidog yn paratoi i danio'r barbeciw yn barod. Be well?"

Drwy gydol yr wythnos o nos Lun i Gwener bydd cyfres Glannau Cymru o'r Awyr yn rhoi golwg llygad barcud i ni o'n traethau, wrth deithio i wahanol rannau o'r arfordir; o Bontydd Hafren hyd at Ogledd Ddwyrain Cymru.

Bydd modd gwylio'r daith ryfeddol gyfan yn ddi-dor hefyd ar ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf gan ddechrau am 9.30 y bore.

Bydd amryw o raglenni eraill y sianel yn mynd i ysbryd yr wythnos forwrol hefyd, wrth i Prynhawn Da a Heno ddarlledu o draeth Llanelli drwy'r wythnos, ac eitemau sydd â chysylltiad â'r môr ar raglen Garddio a Mwy.

Noddir wythnos Traethau Cymru S4C gan Croeso Cymru.

Traethau Cymru S4C

12 – 17 Gorffennaf

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Sgwrs Dan y Lloer ar y Traeth

12 Gorffennaf 9.00

Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

DRYCH: Y Bermo

13 Gorffennaf 9.00

Cynhyrchiad Darlun ar gyfer S4C

Am Dro! Ar Lan y Môr

14 Gorffennaf 9.00

Cynhyrchiad Cardiff Productions ar gyfer S4C

Cynefin: Nefyn

15 Gorffennaf 9.00

Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C

Priodas Pum Mil o'r Traeth

16 Gorffennaf 7.00 ac 8.00

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Glannau Cymru o'r Awyr

12-17 Gorffennaf

Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?