S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​S4C yn lansio gwasanaeth tywydd digidol

22 Gorffennaf 2021

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth tywydd newydd digidol ar gael ar ap Newyddion S4C o heddiw ymlaen, 22 Gorffennaf.

Bydd y gwasanaeth yn ychwanegol i'r bwletinau sy'n cael eu cyhoeddi ddwywaith y dydd gan gyflwynwyr tywydd S4C.

Bydd modd gweld y tywydd ar gyfer dy ardal di, fesul diwrnod a fesul awr, a'r rhagolygon ar gyfer wythnos.

Dyma'r unig wasanaeth tywydd ar-lein yn y Gymraeg ac mae'r gwasanaeth yn bartneriaeth gyda'r Met Office.

Daw'r lansiad ar ddechrau'r gwyliau haf ac yn ystod un o wythnosau mwyaf crasboeth y flwyddyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd hyd at 30 gradd mewn sawl ardal o Gymru.

Lansiwyd Gwasanaeth Newyddion Digidol S4C ym mis Ebrill.

Ers lansio, mae'r ap a'r wefan wedi cyhoeddi cannoedd o straeon gwreiddiol, ac hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru, yn ogystal â chyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C a gynhyrchir gan BBC Cymru.

"Dyma gam allweddol arall yn natblygiad gwasanaeth newyddion digidol S4C." meddai Ioan Pollard, Golygydd Newyddion Digidol S4C.

"Da'n ni'n falch iawn o lansio'r gwasanaeth tywydd ar ddechrau'r gwyliau haf.

"Mae'r tywydd wedi dod yn fwy pwysig nag erioed o'r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gallu cynnig gwasanaeth tywydd digidol Cymraeg i'n defnyddwyr yn holl bwysig."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?