S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg i S4C

30 Medi 2021

Does dim amheuaeth fod y flwyddyn diwethaf wedi profi gwerth darlledur cyhoeddus yn fwy nag erioed.

Fel yr unig wasanaeth teledu Cymraeg, mae'r iaith yn greiddiol i fodolaeth S4C ac yn ganolbwynt allweddol i'w holl ddarpariaeth.

Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o'r flwyddyn ariannol hyd 31 Mawrth 2021, mae S4C yn falch o'i lle a'i dyletswydd dros y Gymraeg, ac yn parhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib, fel cyflogwr ac wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd.

Wrth gynorthwyo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, mae S4C wedi ymrwymo i gefnogi defnydd a datblygiad yr iaith Gymraeg fel iaith hyfyw yn fewnol, o fewn y gymdeithas ehangach ac yn ddigidol, yn ôl Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.

"Mae 'na le i S4C o fewn ein cymdeithas, ar lawr gwlad ac yn ddigidol.

"Ry'n ni'n parhau i arbrofi ac arloesi gyda syniadau newydd, ac o hyd yn ceisio canfod y peth nesa' i ddatblygu.

"Mae gwerthoedd S4C yr un peth ag erioed – y Gymraeg sydd wrth wraidd yr hyn ni'n wneud."

"Dros y flwyddyn, mae S4C wedi arloesi ar lwyfannau newydd i gynnwys y Gymraeg, ac yn benodol ar lwyfannau digidol.

Cyrhaeddodd gwasanaeth ar alw S4C Clic 236,000 o danysgrifiadau yn ddiweddar.

"Mae ein hymrwymiad i addysg hefyd yn parhau yn flaenoriaeth fawr i ni. Ry'n ni'n falch iawn o'r cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar blatfform Hwb a'n gallu i greu cynnwys sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm."

Ychwanegodd Owen Evans: "Mae S4C yn nesáu at ben-blwydd pwysig iawn, deugain oed! Ers 1982, mae S4C wedi cynnig platfform i ddefnyddio a datblygu'r iaith Gymraeg.

"Drwy ein cynnwys, mae S4C yn cynnig cyfleoedd i weithio'n y Gymraeg drwy'r wlad.

"Ac ar y sgrin, mae Cyw wedi dod yn ffrind i deuluoedd ifanc ar draws Cymru, ac yn fwy diweddar, ein gwasanaeth digidol Hansh yn camu i'r adwy wrth ddenu gwylwyr ifanc i fwynhau a gwylio'n y Gymraeg.

"Ond ar ben hynny, mae S4C yma i bawb o bob oed, a dwi'n methu aros i weld beth arall ddaw wrth i S4C barhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib."

Mae Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gael ar wefan S4C : https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/44903/saf...

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?