Lisa Pedrick sy'n perfformio ei chân wreiddiol fachog 'Camddyfynnu' i gynulleidfa wresog Noson Lawen Castell-Nedd Port Talbot.
Nath Trevett sy'n perfformio ei gân wreiddiol 'Un fel chi' ar lwyfan Noson Lawen Castell-Nedd Port Talbot.
Y grŵp gwerin poblogaidd VRï sy'n perfformio trefniant o 'Y gaseg ddu' fel rhan o Noson Lawen Castell-Nedd Port Talbot.
Angharad Brinn sy'n perfformio fersiwn hyfryd o'r gân draddodiadol 'Ar lan y môr'.
Y gantores a'r gyfansoddwraig o Waun Cae Gurwen, Lisa Pedrick sy'n perfformio 'Dihangfa fwyn' gyda band y Noson Lawen.
The Polar Berries, band o ardal Castell-Nedd Port Talbot sy'n perfformio eu trefniant nhw o'r glasur 'Lawr ar lan y môr'.
Huw Chiswell sy'n cael cwmni VRï a band y Noson Lawen i berfformio trefniant hyfryd o 'Nos Sul a Baglan Bay'.
Bronwen Lewis sy'n rhannu llwyfan y Noson Lawen gyda Chôr Meibion Onllwyn i berfformio 'Anfonaf angel'.
Trio ac Annette Bryn Parri sy'n perfformio 'Aros amdanat ti' - cân serch gafodd ei chyfansoddi gan Annette a Gwyn Parri.
Trio, Annette Bryn Parri a Chôr Meibion Dyffryn Peris sy'n perfformio trefniant Sian Wheway o'r gân hwyliog 'Cân y Medd'.
Alys Williams ac Osian Huw Williams sy'n perfformio 'Yma' ar Noson Lawen - y gân gyntaf i'r band Blodau Papur ei hysgrifennu ar y cyd.
Mei Gwynedd sy'n cael cwmni plant Ysgol Dolbadarn i ganu'r glasur 'Titw Tomos Las' i gynulleidfa Noson Lawen Dyffryn Peris.
Mei Gwynedd sy'n cael cwmni plant Ysgol Dolbadarn i ganu'r glasur 'Titw Tomos Las' i gynulleidfa Noson Lawen Dyffryn Peris.
Huw Owen sy'n perfformio 'Cân i Mam' ar Noson Lawen Dyffryn Peris - y gân ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, 2023.
Côr Meibion Dyffryn Peris sy'n adrodd hanes Gwaun Cwm Brwynog ar lwyfan y Noson Lawen. Cyfansoddwyd y geiriau gan R. Bryn Williams a'r alaw gan Arwel Jones.
Gareth yr Orangutan sy'n perfformio 'Tro cynta'' i gynulleidfa wresog Noson Lawen Dyffryn Peris.
Eiry Price a Hawys Parri, y ddwy chwaer o Landdeiniolen sy'n perfformio un o waith Rhys Jones, 'Cilfan y Coed'.
Alys Williams ac Osian Huw Williams sy'n perfformio fersiwn acwstig hyfryd o 'Llygad Ebrill' ar Noson Lawen Dyffryn Peris.
Y cyflwynydd a'r canwr, Huw Owen sy'n perfformio'i gân wreiddiol 'Mwgwd clir' ar lwyfan Noson Lawen Dyffryn Peris.
Gyda chymorth Euron Jones, Billy Thompson a band y Noson Lawen, Gai Toms sy'n perfformio 'Ellis Humphrey Evans' - cân o deyrnged i Hedd Wyn, y bardd o Gwm Prysor.
Jiw sy'n cael cwmni ei ferch a'i fab, Mared a Tom i berfformio 'Un funud fach' ar lwyfan Noson Lawen Y Moelwyn.
Leri Ann, y gantores o Lan Ffestiniog sy'n perfformio 'Ffŵl ohona i' i gynulleidfa Noson Lawen Y Moelwyn.
Yr Oria, band o ardal Blaenau Ffestiniog sy'n perfformio un o'u caneuon mwyaf adnabyddus ar lwyfan y Noson Lawen, 'Cyffur'.
Meistr y canu gwerin, Robert John Roberts sy'n perfformio 'Hiraeth am Feirion' fel rhan o Noson Lawen Y Moelwyn.
Estella sy'n perfformio eu cân boblogaidd 'Gwin coch' ar lwyfan Noson Lawen Y Moelwyn.
Gyda chymorth Euron Jones, Gai Toms sy'n perfformio cân am un o gymeriadau mawr ardal Y Moelwyn sef 'Robin Pantcoch'.
Leri Ann sy'n perfformio un o ganeuon Melda Lois Griffiths fel rhan o Noson Lawen Y Moelwyn - 'Siarad yn fy nghwsg'.
Lloyd Macey, y canwr o'r Rhondda sy'n troedio llwyfan y Noson Lawen i berfformio cân newydd o'r enw 'Wyt ti'n fy ngharu?'
Seren Haf MacMillan a Taylah James sy'n canu trefniant hyfryd o 'Yn dy gwmni di' gan Robat Arwyn i gynulleidfa Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Gyda chymorth Lloyd Pearce a Tom Evans ar yr offerynnau pres, band y Noson Lawen a Chôr Aelwyd Cwm Rhondda, Lloyd Macey sy'n perfformio trefniant o un o emynau mwyaf poblogaidd ein gwlad, 'Cwm Rhondda'.