S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Safonau rhaglenni a chynnwys

Mae'n ofynnol i S4C sicrhau bod cynnwys gwasanaeth teledu a ffrydio byw S4C yn cydymffurfio â rheolau a bennwyd gan Ofcom. Amlinellir y rhain yng Nghod Darlledu Ofcom ac maent yn berthnasol i holl ddarlledwyr y DU.

Mae gan Ofcom ystod o bwerau a chyfrifoldebau statudol i sicrhau bod gwasanaethau S4C yn cydymffurfio â'r gofynion rheoleiddio perthnasol. Mae'r rhain yn cynnwys y gallu i bennu cosbau ariannol ar S4C am beidio â chydymffurfio â'r gofynion statudol. Gall Ofcom ddirwyo S4C hyd at £250,000.

Mae'n ofynnol ar wasanaethau ar-alw S4C i gydymffurfio gydag Adran 368Q o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, ac (i'r graddau eu bod yn berthnasol i S4C), Rheolau Ofcom ar gyfer darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Nid yw Ofcom yn gyfrifol am reoleiddio cynnwys golygyddol ar-alw a ddarperir gan S4C. Mae cynnwys golygyddol gwasanaethau ar-alw S4C yn cael ei reoleiddio gan Fwrdd Unedol S4C tra bo hysbysebion ar-alw yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASH).

Os ydych am wneud cwyn neu gynnig sylwadau am gynnwys ar-alw S4C, mae manylion cyswllt S4C i'w canfod yma: http://www.s4c.co.uk/c_contact.shtml.

Gallwch gysylltu gyda'r ASH yn Mid City Place, 71 High Holborn, Llundain, WC1V 6QT, neu drwy ffonio 0207 492 2222. Am fanylion pellach am yr ASH, ewch i www.asa.org.uk.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?