7 Mai 2025
Hoffwn gymryd y cyfle i'ch atgoffa o'r drefn o gyfleu billings a theitlau rhaglenni, yn enwedig gan ystyried eu pwysigrwydd wrth sicrhau'n bod yn darparu'r wybodaeth Metadata cywir i gael amlygrwydd i'n cynnwys ar draws ein platfformau cyhoeddi.
Oes modd sicrhau'ch bod yn cyfleu billings penodol (episodig) ar gyfer pob un bennod o leiaf pythefnos ymlaen llaw, yn cynnwys holl raglenni plant, ac hefyd wrth ystyried:
Teitlau EPG: 35 llythyren (gan gynnwys spaces) yn unig.
Billings Cyffredinol: Uchafswm o 500 llythyren (gan gynnwys spaces) Cymraeg, a 500 llythyren Saesneg (gan gynnwys spaces).
Billings EPG: 190 llythyren ar draws y Gymraeg a'r Saesneg
Billings o fewn PAC: Cyfleu pob billing ar PAC yn ddelfrydol
Teitlau ac Isdeitlau penodau: Mae angen rhain ar gyfer y Listings/EPG/Clic ac iPlayer. Mae Is-deitl yn ddefnyddiol i'r gwylwyr er mwyn darganfod y cynnwys yn haws - 'searchability.' Gwerth ystyried teitlau byr a bachog, yn ogystal â'r trend hirach 'Teitl: Subtitle'.
1 Mai 2025
Mae'r rhestr golau gwyrdd sydd yn cynnwys comisiynau diweddaraf S4C bellach ar y wefan.
15 Ebrill 2025
Diolch i bawb am fynychu'r Cyfarfodydd Sector Gweithredol yng Nghaerfyrddin ac yng Nghaernarfon. Dyma'r linc i'r sleids i gyflwyniad timoedd S4C.
Media Cymru ac S4C – Cynllun hyfforddi cynnwys digidol heb ei sgriptio sy'n arwain at gyfle i wneud cais am grant datblygu.
Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.
14 Mawrth 2025
Byddwn yn cynnal dau gyfarfod sector gweithredol mis Ebrill. Mae hwn yn gyfle i chi ddod i adnabod a chreu perthynas gyda staff S4C ar lefel weithredol.
Fe fydd yr un cyntaf yn cael ei gynnal ar 3 Ebrill yng Nghaernarfon, a'r ail yn cael ei gynnal ar 9 Ebrill yng Nghaerfyrddin.
Bydd cyfle i chi sgwrsio gyda staff S4C yn unigol ar ddiwedd y sesiwn. Mae croeso cynnes i bawb.
03/04/25 - Y Galeri, Caernarfon
09/04/25 - Yr Egin, Caerfyrddin
Os nad ydych wedi cadw lle yn barod ar gyfer y cyfarfod, mae dal modd gwneud drwy lenwi'r ffurflen.
Nodyn i'ch hysbysu bydd taliadau olaf y Flwyddyn Ariannol 2024/25 yn cael eu gwneud ar ddydd Iau, 27 Mawrth 2025.
I sicrhau bod y cwmnïau yn cael eu talu ar y dyddiad hwn, bydd angen i anfonebau gyrraedd yr Adran Gyllid erbyn 12.00 ar brynhawn dydd Mawrth, 25 Mawrth 2025.
Bydd taliadiau BACS cyntaf y Flwyddyn Ariannol 2025/26 yn cael eu gwneud ar ddydd Mawrth, 1 Ebrill 2025.
I sicrhau bod y cwmnïau yn cael eu talu ar y dyddiad hwn, bydd angen i anfonebau gyrraedd yr Adran Gyllid erbyn 12.00 ar brynhawn dydd Llun, 31 Mawrth 2025.
Gallwch anfon anfonebau dros e-bost at taliadau@s4c.cymru. Newid dros dro yw hwn, bydd taliadau arferol yn ailddechrau ar ddydd Llun, 7 Ebrill 2025.
31 Ionawr 2025
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Llion Iwan wedi ei benodi yn Brif Swyddog Cynnwys S4C.
24 Ionawr 2025
Yn ystod y cyfarfodydd sector a gynhaliwyd yn mis Tachwedd bu'r comisiynwyr yn trafod eu gofynion diweddaraf. Gallwch weld y sleids yma ar y wefan gynhyrchu.
Gyda'r syniadau Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant gofynnir i chi gysylltu gyda'r comisiynydd perthnasol mewn ebost i drafod unrhyw syniadau cychwynnol. Os oes diddordeb yn y syniad fe ofynnir i chi eu cyflwyno yn ffurfiol ar Cwmwl.
Gyda'r syniadau Drama gofynnir i chi ebostio pitch y gyfres ac yn ddelfrydol enghraifft o 2 neu 3 golygfa. Edrych am gyfresi gafaelgar 'bingable' 30 munud x 5/6/8 megis One Day a Normal People.
Y dyddiad cau ar gyfer y ffenestr gomisiynu Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant yw 31/1/25 a Drama ar y 28/2/25.
Byddwch yn cael ymateb i'r syniadau Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant erbyn 21/2/25 a'r syniadau Drama ar 11/4/25.
23 Ionawr 2025
Gwahoddiad i dendr: cerddoriaeth (dyddiad cau hanner dydd 24/1/25)
Yn dilyn trafodaeth rhwng PRS for Music ac S4C bore 'ma, dylech gyllidebu hawliau cerddoriaeth ar sail cyfraddau'r cytundeb IPC (h.y. Deyrnas Unedig yn unig) os gwelwch yn dda. Bydd sgyrsiau pellach efo'r cynhyrchydd llwyddiannus am hawliau cerddoriaeth byd eang yn dilyn, ond am y tro, dim ond costau clirio DU y dylid eu nodi.
Yn ystod y cyfarfodydd sector a gynhaliwyd yn Mis Tachwedd bu'r comisiynwyr yn trafod eu gofynion diweddaraf.