S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Cynnwys Plant

Mae Gwasanaeth Plant S4C yn hynod o bwysig i blant a'u teuluoedd. Mae Cyw i blant meithrin hyd at 6 oed a Stwnsh i blant rhwng 7-13 oed. Pob wythnos mae 39 awr o gynnwys Cyw ar y teledu gyda gwasanaeth CywTiwb ar gael gweddill y dydd ar lwyfannau digidol. Hefyd mae modd Chwerthin, Chwarae a Dysgu gyda Cyw a'i ffrindiau ar amrywiaeth o apiau, y mwyaf diweddar yw ap gemau Byd Cyw. Mae Stwnsh ar S4C bob dydd rhwng 5-6 y.h. ac o 8-10 bore Sadwrn. Mae gan Cyw a Stwnsh gysylltiad clos gyda'r gynulleidfa drwy sioeau a digwyddiadau amrywiol.

Mae 32 o sianeli i blant ar gael yn y DU ac mae'n hanfodol ein bod yn cynnig cynnwys cryf sy'n sefyll allan ac yn cystadlu yn erbyn y goreuon. Yn gyffredinol, mae dau oed sy'n anodd i ni - rhwng 6-7 oed pan mae plant yn tyfu allan o Cyw ac yn dechrau darganfod sianeli eraill; ac o gwmpas 10/11 pan maen nhw yn gwylio cynnwys dyrchafol ac aeddfed. Wrth gynnig syniadau mae hi werth ystyried y ddau gyfnod yma. Hefyd mae plant yn debygol iawn o wylio ar unrhyw blatfform, gwylio eu ffefrynnau sawl tro; ar hyn o bryd mae 50% o sesiynau gwylio i gynnwys Cymraeg BBC iPlayer ar gyfer cynnwys plant, gyda'r mwyafrif i raglenni plant meithrin.

CYW

Mae plant oed Cyw yn mwynhau straeon da, cymeriadau cryf a chredadwy, antur ac wrth gwrs digonedd o hiwmor. Maen nhw wrth eu boddau yn gweld plant eraill, yn cymryd rhan ac ymuno yn yr hwyl. Mae amrywiaeth o genres ar Cyw: drama, comedi, dogfen, fformatau gyda chyflwynydd, rhaglenni addysg ac amrywiaeth o animeiddiadau. O'r gyllideb blant, mae 75% o'r gwariant ar gynnwys gwreiddiol a tua 25% ar bryniannau.

I'r oedran yma, mae comisiynu cynnwys sy'n gynhenid Gymraeg yn flaenoriaeth. Un enghraifft dda o gyfres sy'n hollol wreiddiol yw Deian a Loli ac mae'r cyfuniad o'r straeon, y perfformiadau direidus, y byd hudolus a'r ddeialog naturiol wedi apelio at y gynulleidfa. Mae cyfresi dogfen megis Ysbyty Cyw Bach, Teulu Ni ac Y Diwrnod Mawr yn adlewyrchu bywydau plant Cymru gyfoes ac yn agor eu llygad i fywydau gwahanol.

Wrth gomisiynu i Cyw, mae'n bwysig datblygu cymeriadau fel Ben Dant, Dona Direidi, Heulwen, Seren a Lobs - cymeriadau sy'n gweithio ar y teledu a hefyd yn sioeau Cyw. Mae amrywiaeth yn hynod o bwysig wrth ddatblygu talent ac rydym yn croesawu ceisiadau i ddatblygu talent o gefndiroedd amrywiol. Mae gweld plant o bob cefndir ethnig ac abledd ar y sgrin yn allweddol. O ran iaith, noder mai dim ond 20% o blant sy'n mynychu cylchoedd meithrin sydd â dau riant yn siarad Cymraeg ac mae 60% o'r plant â rhieni sy'n uniaith Saesneg. Felly i'r ran helaeth o'n cynulleidfa, dim ond ar Cyw maen nhw'n clywed Cymraeg ar yr aelwyd. Mae cyfle hefyd i ddenu rhieni di-gymraeg a dysgwyr trwy wasanaeth Cyw.

S+

I blant oed Stwnsh, comedi sy' fwyaf apelgar ac felly mae wastad cyfle i pitchio cynnwys doniol ac arbrofi gyda fformatau comedi newydd. Yn ddiweddar mae Mabinogi-ogi wedi creu sŵn a thynnu sylw'r gynulleidfa. Mae datblygu comedi toredig a sitcoms newydd yn bwysig, felly dewch i drafod os oes gennych chi syniad.

Mae fformatau ffeithiol fel Y Gemau Gwyllt, Pwy Geith y Gig, a Coginio yn boblogaidd - ond mae nhw ar eu gorau pan mae'r heriau yn wirioneddol anodd a chredadwy. Cyfresi ffeithiol megis arbrofion eithafol Boom!, problemau personol ar Llond Ceg, newyddion ar Ffeil a chyfresi Tag, Rygbi Pawb a Sgorio sy'n cynnig amrywiaeth i'r gynulleidfa. Mae ffilmiau dogfen unigol #Fi yn dilyn straeon cryf plant.

Felly o ran cynnig syniadau Stwnsh mae cyfleoedd i pitchio comedi, fformatau ffeithiol heriol a straeon dogfen unigol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?