S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Drama

Wrth i batrymau gwylio esblygu a thueddu tuag at wylio ar lein yn ogystal ag ar y teledu, mae'n gyfnod cyffrous ym myd drama ar S4C.

Ein huchelgais yw comisiynu drama sy'n cyffroi, herio a diwallu dyhead y gynulleidfa am straeon cryf ac sy'n teimlo'n gynhenid Gymreig. Ry'n ni'n chwilio am syniadau gwreiddiol, trawiadol a phryfoclyd gan awduron adnabyddus a thalent newydd.

Conglfeini drama'r sianel yw'r operâu sebon; Rownd a Rownd, sy'n darlledu ddwywaith yr wythnos, ac wrth gwrs Pobol y Cwm, sy'n darlledu pum gwaith yr wythnos, gydag omnibws ar ddydd Sul. Prif slot ddrama'r sianel yw 9 o'r gloch ar nos Sul, gyda chyfresi fel Bang, Un Bore Mercher, Craith a Parch wedi darlledu yn ddiweddar. Yn ogystal, mae'r ddrama ysgol boblogaidd 'Gwaith Cartref' yn darlledu yn slot awr 8 o'r gloch nos Fercher.

Mae dramâu trosedd wedi hen ennill eu plwy ar y sianel erbyn hyn ac mae bob amser galw gan y gynulleidfa am ddramâu o'r fath, ond ry'n ni hefyd yn chwilio am 'genres' gwahanol, yn ddramâu comedi, dramâu teuluol, dramâu yn ymwneud â phynciau cyfredol, yn wir unrhyw fath o ddrama sydd â stori a chymeriadu cryf ac sy'n berthnasol i'n cynulleidfa.

Dylid nodi rydym am gomisiynu rhediadau o 6 yn hytrach nag 8 awr o gyfresi drama o hyn allan. Er mwyn ysgogi amrywiaeth yn yr amserlen, ry'n hefyd yn chwilio am gyfresi byrrach 3 - 4 pennod yn ogystal ag ambell ffilm unigol 90' o hyd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?