S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cog1nio

Ryseitiau Nia, Osian ac Emily

Stêc tiwna Nia

Stêc Tiwna , tatws rosti a salsa

Cynhwysion

taten Maris Piper (1)

menyn

olew (sunflower)

lemon

garlleg

pupur a halen

Soy sauce

sudd oren

lime (2)

1 winwns coch (bach)

tomato bach melys (3)

chili coch (1)

coriander ffres

siwgr caster

olew olewydd

stêc Tiwna

Dull:

  • Cymysgu garlleg, olew olewydd, sudd oren a lemon, saws soy, halen a phupur, a'i arllwys dros y tiwna .
  • Plicio a gratio taten a'i roi mewn llian glân a gwasgu'r dŵr allan. Agor y llian a rhoi digon o halen a phupur dros y daten.
  • Arllwys olew olewydd i badell ffrio ar wres cymhedrol a gosod "ring" metel yn y canol, yna gosod y tatws yn y ring. Troi'r gwres i lawr yn isel.
  • Salsa - torri y winwns coch, tomatos, chili a coriander yn fân a rhoi'r cyfan mewn powlen ac arllwys sudd leim drosto.
  • Rhoi griddle ar wrês uchel. Tynnu'r tiwna o'r marinêd a'i osod ar y griddle. Coginio am 3 munud bob ochr. Tynnu'r tiwna o'r griddle a'i adael ar blât cynnes gyda ffoil drosto i'w gadw'n gynnes.
  • Tynnu'r ring i ffwrdd a throi'r tatws rosti drosodd. Parhau i'w goginio ar wres isel am 5 i 8 munud arall gan ofalu fod e ddim yn llosgi.
  • Gosod y cyfan ar blât a'i weini

Samwn gyda dil a garlleg wedi'i weini gyda phasta ffres Osian

Samwn gyda dil a garlleg wedi'i weini gyda phasta ffres, ffa gwyrdd, samphire , salsa verde almonau , basil a darnau o bomegranad.

Cynhwysion :

2 x filed samwn gwyllt

dill ffres

garlleg

olew olewydd

10 tomato bach

200g spinach/spigoglys

150g ffa gwyrdd

100g asparagus

garlleg

basil ffres

50g almonau (blanched)

50g caws parmesan

1 lemwn

1 leim

1 pomegranad

I'r pasta ffres :

!00g blawd plaen

1/4 llwy de o halen

1 ŵy

1/2 llwy fwrdd o olew olewydd

Tollta'r blawd ar y brwdd a gwna gylch yn y canol . Torra wŷ i'r cylch ac ychwanega'r halen a'r olew.

Gan ddefnyddio llwy bren , cymysga'r blawd gyda'r wŷ, a phan made gen ti gymysgedd crwbl defnyddia dy ddwylo i greu toes meddal . Gwna hyn am ychydig o funudau .

Rolia'r toes yn sgwariau mawr ac yna rhannau'r sgwariau yn strips hir . Rho ychydig o flawd man dros y cyfan a gad y toes i un ochr . one side.

Samwn

Rho'r samwn mewn desgl popty gyda garlleg ac ychydig o dil ac olew olewydd . Rho fe yn y popty am 15 munud ar 150C gradd .

Pasta

Nol at y pasta – rho'r strips mewn dwr berwedig am 10 munud .

Stemia'r ffa gwyrdd am 10 munud , gyda'r spinach a'r samphire

Y salsa verde

Cymysga'r basil , almonau , lemon a'r olew I greu salsa gwlyb .

Yna rho'r pasta mewn powlen fawr gyda'r samwn ar ei ben , tollta'r salsa ar ben y samwn ac ychwanega'r ffa gwyrdd , y spinach a'r samphire cyn gorffen gyda ychydig o hadau pomegranad .

Gweina !

Brest hwyaden 'five spice gyda salad ffa gwyrdd Emily

Brest hwyaden 'five spice gyda salad ffa gwyrdd

Cynhwysion:

2 Brest hwyaden

five spice

Mêl

saws Soy

ffa gwyrdd

hazelnuts

finegr Sherry

Sgoriwch croen yr hwyaden mewn patrwm croes gyda chyllell miniog. Rhwbiwch halen a five spice i'r frest gan ganolbwyntio ar y croen.

Rho'r frest, gyda'r croen i lawr ar ffreipan sych a'i goginio ar wres isel am 8-10 munud.

Tro'r gwres i fyny a ffrio nes bod y croen yn grimp. Tro'r frest a ffrio'r ochr arall am 3-4 munud. Cyn ei orffen rho ychydig o fêl a saws soy drosto ac aros nes ei fod yn surop. Rho'r frest ar blat cynnes a'i orffwys am 5-10 munud.

Berwa'r dwr i'r ffa gyda pinsiad o halen a choginio am 1 munud.

Dull :

Mala'r cnau gyda 'pestle and mortar'. Golcha'r ffa a'u sychu gyda phapur cegin. Chwisgia'r olew , finegr, pupur a halen ac ychwanega'r ffa i'r hylif.

I weini rho'r ffa ar un ochr o'r plat a torra'r hwyaden yn sleisys trwchus ar ben. Rho unrhyw sudd sydd ar ol dros yr hwyaden.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?