S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C am ddarlledu dathliadau’r Gamp Lawn

21 Mai 2008

     Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau Parti’r Gamp Lawn yn Stadiwm y Mileniwm, gan alluogi gwylwyr ledled y Deyrnas Unedig i fwynhau’r digwyddiad cyffrous hwn i ddathlu llwyddiant tîm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe werthwyd yr ugain mil o docynnau ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim a gynhelir brynhawn Llun, 26 Mai o fewn munudau i’w rhyddhau – ond mae’r cyhoeddiad hwn gan S4C a Stadiwm y Mileniwm yn golygu y gall gwylwyr fwynhau holl hwyl y sioe mewn rhaglen awr arbennig.

Bydd S4C yn darlledu’r sioe Grand Slam 08 – Dathliad y Pencampwyr nos Iau 29 Mai am 8.25pm ac eto nos Sul 1 Mehefin am 7.30pm.

Caiff ei dangos ar S4C ac S4C digidol, sydd ar gael ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ar Sky 104, Freesat 104, Freeview 4 a Virgin TV 194 yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar yr un pryd ar wefan S4C, www.s4c.co.uk.

Mae’r Stereophonics, Feeder, seren X Factor Rhydian Roberts, Heather Small, Dafydd Iwan a charfan a hyfforddwyr Cymru ymhlith y sêr sy’n cymryd rhan yn y sioe.

Sarra Elgan fydd y cyflwynydd ar y llwyfan, tra bydd Rhodri Owen y tu ôl i’r llwyfan gyda’r perfformwyr ar gyfer y sioe deledu a gynhyrchir gan Undeb Rygbi Cymru/Avanti ar gyfer S4C.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae S4C yn falch iawn o gael chwarae rhan allweddol yn nathliadau’r Gamp Lawn. Mae ein partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru, ein hymrwymiad i ddarlledu cerddoriaeth a’n henw da fel sianel y digwyddiadau mawr yn sicrhau y bydd holl hud a hwyl y digwyddiad cofiadwy hwn ar gael ar gyfer gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Rydym yn falch iawn bod darlledwr o statws S4C wedi sicrhau’r hawl i ddarlledu’r cyngerdd. Mae gennym berthynas rygbi gyfoethog gydag S4C ac mae’n briodol iawn ei bod nawr yn cael y cyfle i chwarae rhan allweddol yn ein dathliadau Camp Lawn. Rydym ar ben ein digon o ddeall y bydd Cymru gyfan a chefnogwyr dros y ffin yn gallu mwynhau’r hwyl hefyd.”

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?