S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw yr wythnos hon

16 Mehefin 2008

 Bydd cyfle i blant bach Cymru gwrdd â Cyw, wyneb cyfeillgar gwasanaeth meithrin newydd S4C, wrth i fws arbennig deithio ar hyd a lled y wlad mis yma.

Bydd taith Cyw yn ymweld ag ysgolion a mudiadau meithrin yn ardaloedd Wrecsam, Dolgellau, Llanelli, Castell Nedd a Chaerdydd, lle bydd cyfle i wylwyr ifanc ddod wyneb-yn-wyneb â Cyw, yn ogystal â Sali Mali a chymeriad Now o Ribidirês.

Mae’r cymeriadau yn teithio’r wlad mewn bws mawr lliwgar er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth newydd, sy’n mynd yn fyw ar yr awyr ar S4C Digidol ar 23 Mehefin.

Yn ystod y daith, bydd cyfle hefyd i glywed cân arbennig Cyw ac i ddysgu mwy am y gwasanaeth sy’n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 7.00am a 1.30pm.

Bydd y daith yn cyrraedd penllanw yng Ngŵyl Tafwyl Caerdydd ym Mae Caerdydd ar 20 Mehefin, mewn digwyddiad a drefnir gan y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C Rhian Gibson, “Mae’n gyfnod cyffrous i S4C ar hyn o bryd wrth inni baratoi i lansio gwasnaeth meithrin newydd y Sianel, Cyw, fydd yn ehangu’n sylweddol ar ein gwasanaethau Cymraeg i blant bach. Mae’r daith bws yn rhoi cyfle i blant Cymru ddod i adnabod Cyw cyn i’r gwasanaeth ddechrau ar 23 Mehefin.”

Bydd gwefan ddwyieithog gyffrous – s4c.co.uk/cyw – yn cyd-fynd â’r gwasanaeth. Bydd y wefan yn llawn gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni. Bydd llawer o’r rhaglenni ar gael i’w gwylio ar-lein a darperir is-deitlau Saesneg ar y rhan fwyaf o gyfresi.

Mae S4C Digidol ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru ar Sky 104, Freesat 104, Freeview 4 a Virgin TV 194, a thu allan i Gymru ar Sky 134 a Freesat 120.

Diwedd

Nodiadau i’r Golygydd:

Bydd y daith yn ymweld â’r ysgolion canlynol:

Llun, 16 Mehefin

Ysgol Gynradd Plas Coch, Wrexham

Ysgol Gynradd Bodhyfryd, Wrexham

Ysgol Gynradd Bryn Tabor, Coedpoeth

Mawrth, 17 Mehefin

Ysgol Gynradd Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid, Bala

Ysgol Gynradd Dolgellau

Mercher, 18 Mehefin

Ysgol Parc y Tywyn, Llanelli

Ysgol Gynradd Ffwrnes, Llanelli

Ysgol Dewi Sant, Llanelli

Iau, 19 Mehefin

Ysgol Gynradd Pontardawe

Ysgol Gynradd Castell Nedd

Ysgol Rhosafan, Port Talbot

Gwener, 20 Mehefin

Gŵyl Tafwyl, Bae Caerdydd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?