S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gwobrwyo doniau golff disglair

14 Hydref 2009

Mae dau o chwaraewyr golff ifanc mwyaf addawol Cymru wedi ennill ysgoloriaethau gan S4C i helpu datblygu eu doniau yn y maes.

Derbyniodd Gemma Bradbury, 18, o’r Bont-faen a Rhys Pugh, 16, o Bontypridd eu hysgoloriaethau yng ngwesty’r Celtic Manor mewn noson arbennig wedi ei threfnu gan Undeb Golff Cymru.

Mae Gemma wedi cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Tîm Ewrop 2009 ac yng Ngemau Cartref Rhyngwladol y Merched. Mae’n aelod o Glybiau Golff Cottrell Park a Bro Morgannwg.

Mae Rhys yn aelod o Glybiau Golff Bro Morgannwg a Southerndown ac mae newydd ei wobrwyo yn Olffiwr Amatur y Flwyddyn gan Undeb Golff Cymru. Rhys oedd y chwaraewr ifancaf i gael ei ddewis i gynrychioli Cymru yng Ngemau Cartref Rhyngwladol y Bechgyn yn 2009 pan oedd yn 15 oed.

Bydd yr ysgoloriaethau, a ddyfarnwyd gan banel o feirniaid o Golf Development Wales ac S4C, yn helpu gyda chostau hyfforddi, cystadlu a theithio ac offer newydd. Bydd y ddau ysgolor hefyd yn derbyn dosbarth meistr gan un o sêr golff Cymru.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r ysgoloriaethau yn adlewyrchu ymrwymiad S4C i golff ac i chwaraeon yn gyffredinol - ac i ddigwyddiadau mawr Cymreig wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan Ryder 2010, a gynhelir am y tro cyntaf yng Nghymru, yn y Celtic Manor.”

Mae S4C hefyd yn noddi Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C, un o ddigwyddiadau’r haf y Cwpan Ryder.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?