S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni teyrnged S4C i Stewart Jones

26 Gorffennaf 2011

      Bydd S4C yn darlledu nifer o raglenni fel teyrnged i’r actor o Eifionydd, Stewart Jones sydd wedi marw yn 83 mlwydd oed.

Bydd S4C yn darlledu pennod o'r gyfres boblogaidd 'Glas y Dorlan' nos Iau 11 Awst. Y noson ganlynol, nos Wener 12 Awst, cawn ddilyn yr actor yn chwilio am ei wreiddiau yn yr Alban yn y rhaglen ddogfen 'Stewart Whyte McEwan Jones’. Yr un noson, bydd cyfle i weld Stewart Jones yn un o'i rannau mwyaf adnabyddus ‘Ifas y Tryc’.

Ar nos Sul 14 Awst am 9 o’r gloch, teledir y ffilm ‘Oed yr Addewid’, gyda Stewart yn y brif ran – perfformiad a enillodd wobr BAFTA Cymru i’r actor a aned yng Nghaeredin ond a fagwyd yn Eifionydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?