S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillwyr Ysgoloriaeth T.Glynne Davies

22 Medi 2011

  Eleni bydd tri myfyriwr yn rhannu Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T.Glynne Davies a noddir gan S4C.

Y tri fydd Bethan Muxworthy o Lannon, Llanelli, Geraint Thomas o’r Eglwys Newydd, Caerdydd a Carly Jones o Bentre'r Eglwys, Pontypridd.

Cynigir Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T.Glynne Davies, sydd werth £6,500, gan S4C i gynorthwyo ysgolheigion i ddilyn cwrs Newyddiaduraeth Ddarlledu ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae S4C yn cynnig yr ysgoloriaeth er mwyn cefnogi datblygiad talent ym maes newyddiaduraeth ac i helpu i gryfhau’r cynnwys mae’r Sianel yn ei gomisiynu.

Dywedodd Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C: “Rydw i’n falch iawn ein bod yn medru cynnig Ysgoloriaeth T Glynne Davies eto eleni ac ein bod yn medru ei rhannu rhwng tri myfyriwr mor addawol. Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth a Chyfryngau Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad yn rhyngwladol ym maes dysgu ac ymchwil newyddiadurol ac mae’r cwrs Diploma ôl radd wedi meithrin newyddiadurwyr o’r safon uchaf dros y blynyddoedd. Mewn cyfnod o arbed arian o fewn y diwydiant mae’n hanfodol fod 'na ddal pwyslais ar hyfforddi a meithrin pobl ifanc. Yn ogystal â’r Ysgoloriaeth, mae S4C yn cyfrannu £320,000 tuag at ddarpariaeth hyfforddi i’r sector gynhyrchu ac yn gweithio gyda Skillset a’r cwmnïau cynhyrchu, a gyda Cyfle, er mwyn hybu a datblygu sgiliau ym maes y cyfryngau.”

Meddai Colin Larcombe, Cyfarwyddwr y Cwrs Diploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, “Rydym yn falch fod S4C yn rhannu Ysgoloriaeth T.Glynne Davies eleni. Mae’r Ysgoloriaeth wedi bod yn help i lansio llawer i yrfa lwyddiannus. Mae’r tri myfyriwr yma’n enillwyr haeddianol. Rwy’n siwr y byddant yn mynd ymlaen i fod yn newyddiadurwyr ardderchog.”

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth fel teyrnged i’r bardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr T.Glynne Davies a fu farw yn 1988.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?