S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn talu teyrnged i Gerallt Lloyd Owen

16 Gorffennaf 2014

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd nifer o raglenni arbennig yn cael eu hamserlennu dros y dyddiau nesaf er cof am Gerallt Lloyd Owen - un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, a fu farw ddoe.

Heddiw ar Prynhawn Da bydd y Prifardd Robat Powell yn cofio am Gerallt Lloyd Owen.

Mewn rhaglen arbennig o Heno (heddiw, 16 Gorffennaf) bydd; Ceri Wyn Jones, Eurig Salisbury, Dafydd Iwan, Mererid Hopwood a Tudur Dylan yn rhoi teyrngedau.

Nos Sadwrn, 19 Gorffennaf am 9.30 bydd y ffilm ddogfen Gerallt yn cael ei dangos eto, gyda chyfle arall i’w gwylio nos Lun (21 Gorffennaf), am 10.00pm gydag is-deitlau agored. Enillodd wobrau am ddogfen orau 2013 Bafta Cymru, ac yn yr wyl Geltaidd eleni gwobrau am y ffilm gelf orau ac ysbryd yr ŵyl.

 Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Mae’r newyddion am farwolaeth Gerallt yn ofnadwy o drist – mae Cymru a’r Gymraeg wedi colli un o’n mawrion cyfoes. Roedd y portread gwych diweddar ohono ar S4C, Gerallt, yn gyfle prin i ddod i’w adnabod yn well wrth iddo fwrw ei fol am yr hyn a’i ysgogodd drwy gydol ei fywyd – y llon ar lleddf. Wrth ei wylio bryd hynny, roeddech chi’n ymwybodol y byddai gwaith anhygoel y gŵr arbennig yma’n cael ei gofio a’i werthfawrogi am genedlaethau i ddod. Mae hi ond yn briodol bod S4C fel sianel deledu Gymraeg yn cofio cyfraniad Gerallt yn sgil y newyddion am ei farwolaeth.

“Hoffwn gynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a chyfeillion Gerallt yn eu colled.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?