S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn mynd a'r Sioe Fawr i bedwar ban byd

18 Gorffennaf 2014

Eleni mae S4C wedi sicrhau y bydd modd i bobl ledled y byd fwynhau'r cystadlu yn Sioe Frenhinol Cymru o Lanelwedd, un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop.

Yn ogystal â'r darllediadau ar y Sianel, bydd tair ffrwd fyw ar wefan S4C yn ystod cyfnod y Sioe yn dangos darllediad byw S4C, cystadlaethau’r prif gylch a’r gystadleuaeth Cneifio – a’r cwbl ar gael i'w gwylio ledled y byd.

Drwy fynd at s4c.co.uk/ysioe rhwng dydd Llun 21 a dydd Iau 24 Gorffennaf bydd modd gwylio’r cyfan – gan ddewis sylwebaeth Gymraeg neu Saesneg ar y dair ffrwd.

Bydd S4C hefyd yn darlledu’n fyw o'r Sioe rhwng 9 a 5 o'r gloch bob diwrnod ar y Sianel, a bydd rhaglenni uchafbwyntiau i'w gweld gyda'r nos. Bydd modd dewis sylwebaeth Saesneg ar y rhaglenni dydd ac isdeitlau Saesneg ar y rhaglenni nosweithiol. Mae’r rhaglenni byw ac uchafbwyntiau ar S4C ar gael ar ystod o lwyfannau yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

"Rydym yn falch iawn o allu darparu'r gwasanaeth hwn sy'n rhoi blas i bobl o'r Sioe, a hynny ar draws y byd i gyd.

"Mae cystadlaethau'r Prif Gylch a'r cystadlaethau cneifio o'r Neuadd Gneifio ymysg y rhai mwyaf poblogaidd a phwysig o fewn y byd amaeth ledled y byd, ac rydym yn falch o roi platfform byd-eang iddyn nhw. Mae'r ffrydiau byw yn gyfrwng gwych i'n galluogi i fynd â Chymru i'r byd."

Meddai Aled Jones, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:

“Mae'r darllediadau byw mae S4C yn gynnig yn holl bwysig i'r Gymdeithas, yn enwedig gyda'r gwasanaethau estynedig o'r Prif Gylch ac adran y cneifio lle mae yna gryn dipyn o sylw byd-eang.

"Rwy'n ymwybodol fod yna diddordeb sylweddol gan bobl o wledydd tramor i ddilyn y Sioe a chael blas o'r gweithgarwch. Gobeithio hefyd y bydd ffrydiau byw S4C yn denu mwy o ymwelwyr yn y dyfodol.”

Mae gan S4C app ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru hefyd. Gyda map rhyngweithiol o faes y sioe, gwybodaeth am sut i gyrraedd yno ac am sut i barcio, amserlen o ddigwyddiadau'r dydd, y cystadlaethau a'r canlyniadau diweddaraf, mae'r ap yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd angen arnoch am Y Sioe. Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r app ewch i s4c.co.uk/ysioe.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?