S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyflwynwraig S4C yn derbyn Gwobr Goffa Bob Davies

25 Gorffennaf 2014

Ar ddiwrnod olaf Y Sioe Frenhinol ddoe (24 Gorffennaf) derbyniodd Meinir Jones, cyflwynwraig cyfres Ffermio S4C, Wobr Goffa Bob Davies, Undeb Amaethwyr Cymru.

Un o Sir Gaerfyrddin yw Meinir, a magwyd hi ar Fferm Maesteilo yng Nghapel Isaac ac mae’n mwynhau helpu pob cyfle posib wrth waith beunyddiol y fferm. Ffermwyr lleol Sir Benfro oedd wedi enwebu Meinir ar gyfer y wobr, a hynny am ei heitem ar Ffermio am effaith TB mewn gwartheg a pholisi dileu cyfredol Llywodraeth Cymru.

Rhoddir y wobr hon er cof am Bob Davies o'r Trallwng, gohebydd Cymreig y Farmers' Weekly, fu farw ym mis Tachwedd 2009.

Ffon fugail oedd y wobr, un wedi ei cherfio yn arbennig gan wneuthurwr ffyn o Aberystwyth, Hywel Evans.

 

Cyflwynwyd y wobr i Meinir gan Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, a hynny am fod yn bersonoliaeth yn y cyfryngau sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Meddai Meinir Jones, "Roedd derbyn y wobr yma yn brofiad arbennig ac rydw i yn hynod o ddiolchgar i bawb wnaeth fy enwebu ac i Undeb Amaethwyr Cymru.

Dwi’n hynod ddiolchgar am y cyfle i wneud y swydd dwi ynddi yn cyflwyno ar Ffermio. Mae’n fraint ac anrhydedd cael teithio o amgylch Cymru a thu hwnt yn cwrdd â phobl mor frwdfrydig ac angerddol dros y diwydiant a chefn gwlad yn gyffredinol.

"Mae ymroddiad y ffermwyr yn amlwg iawn, yn rhoi cant a chant i sicrhau bwyd o’r safon gorau ar y plât. Dwi’n ymfalchïo yn y ffaith fy mod yn amaethwraig fy hun, ac wrth fy modd cael cyfuno’r diddordeb hwnnw gyda fy ngwaith o ddydd i ddydd."

Roedd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd cyfres Ffermio S4C, yn hynod falch o'r newyddion am lwyddiant Meinir.

"Mae cyfresi amaethyddol S4C yn rhai o safon a sylwedd arbennig iawn, ac mae'r diolch am hynny wrth gwrs i'r cwmnïau cynhyrchu am eu gwaith gwych, ond hefyd i'r cyflwynwyr.

"Mae Meinir, a gweddill cyflwynwyr Ffermio a rhaglenni eraill fel Cefn Gwlad, yn byw ac yn gweithio mewn cymunedau amaethyddol yng nghefn gwlad Cymru, ac mae'n amlwg wrth wylio eu bod yn angerddol am ffermio a'r holl ffactorau sy'n effeithio'r diwydiant.

"Llongyfarchiadau mawr iawn i Meinir ar ennill Gwobr Goffa Bob Davies, mae'n dyst i'w gwaith caled a'i hymroddiad i'r diwydiant."

Bydd cyfres Ffermio yn dychwelyd i S4C ym mis Medi.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?