S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Uwch Gynghrair Cymru a Sgorio yn ganolog i'n hamserlen – S4C

14 Awst 2014

Tymor newydd a chyfnod newydd yn hanes darlledu chwaraeon yng Nghymru - ac mae darlledu gemau ac uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru ar Sgorio yn rhan mor bwysig ag erioed o arlwy chwaraeon S4C.

Dyma sylwadau Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Ffeithiol S4C, wrth i Sgorio ddatgelu’r amserlen o gemau byw a fydd yn rhan o raglen chwaraeon newydd S4C, Clwb ar brynhawniau Sul.

Fe fydd Sgorio yn dychwelyd ar brynhawn Sul, 7 Medi fel rhan o'r sioe chwaraeon Clwb pan fydd Nicky John yn cyflwyno Y Rhyl v Aberystwyth yn fyw am 1.00. Fe fydd y rhaglen hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau o gemau eraill Uwch Gynghrair Cymru.

Mae sylwebaeth Saesneg ar gael drwy'r gwasanaeth botwm coch/dewis iaith ar gyfer gemau byw.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Ffeithiol S4C;

"Mae Sgorio yn symud i ddydd Sul o 7 Medi ymlaen fel rhan o'r gyfres chwaraeon newydd Clwb. Mae'n bennod newydd a chyffrous i ddarlledu pêl-droed yng Nghymru. Rydym yr un mor ymroddedig ag erioed i ddarlledu gemau ac uchafbwyntiau o Uwch Gynghrair Cymru ar ddydd Sul. Bydd gennym wyth gêm fyw yn ymwneud â'r 12 tîm yn y ddeufis cyntaf yn unig. Rydym yn gwerthfawrogi bod gennym ddarpariaeth unigryw yn ffurf Uwch Gynghrair Cymru a bydd y gemau ar Sgorio yn parhau’n ganolog i’n hamserlen.

"Fe fydd gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru neu o gwpanau pêl-droed Cymru bron bob wythnos, ynghyd ag uchafbwyntiau o gemau eraill Uwch Gynghrair Cymru ledled y tymor, a dadansoddi trylwyr gan arbenigwyr fel Malcolm Allen. Mi fydd yr holl elfennau o bêl-droed Uwch Gynghrair Cymru felly i'w cael ar brynhawn Sul yn Sgorio – a hynny fel rhan o Clwb, a fydd yn cynnwys nifer o chwaraeon.

"Nicky John fydd yn cyflwyno Sgorio, gan fod Dylan Ebenezer yn symud i lywio Clwb lle bydd hefyd digon o gyfle i drafod pêl-droed yn ystod y prynhawn cyfan, gan gynnwys uchafbwyntiau nifer o gemau Wrecsam yng Nghyngres Vanarama. Bydd llwyfan i wylwyr gyfrannu gydol y rhaglen ar y cyfryngau cymdeithasol a chawn y newyddion diweddaraf o'r meysydd pêl-droed ledled y Deyrnas Unedig.”

Dywed Llion Iwan y bydd S4C yn darlledu 30 o gemau byw o Uwch Gynghrair a chystadlaethau cwpan Cymru a bydd uchafbwyntiau ar gael yn rheolaidd.

Mae’r sianel eisoes wedi darlledu gemau Y Seintiau Newydd yng Nghynghrair y Pencampwyr a gemau cyfeillgar Caerdydd v VfL Wolfsburg ac Abertawe v Villarreal ac mae hynny’n adlewyrchu ymroddiad S4C i ddangos cymaint o gemau bêl-droed ag sy’n bosibl.

"Fe fydd modd gweld y rhaglen Sgorio ar wefan S4C fel rhan o wasanaeth Clic am 35 diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol. Bydd modd gwylio uchafbwyntiau o Uwch Gynghrair Cymru sy’n cael eu dangos ar Clwb tu allan i raglen Sgorio ar wefan S4C hefyd.

"Ni fyddwn yn medru dangos uchafbwyntiau La Liga ar ddyddiau Sul am nad oes gan S4C yr hawliau darlledu."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?