S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cam o'r dibyn – mae Mathias yn ôl

29 Rhagfyr 2014

Mae DCI Mathias yn ôl. Ar S4C ar Ddydd Calan fydd y cyfle cyntaf inni weld y bennod arbennig, hir ddisgwyliedig, Y Gwyll/Hinterland.

Ar nos Iau, 1 Ionawr, bydd achos newydd iasol yn ein cadw ar flaenau'n seddi wrth i Mathias a'r tîm ymchwilio i drosedd newydd. Ac yn y bennod afaelgar hon byddwn yn dod i wybod mwy am ein harwr a'r cyfrinachau tywyll mae'n ceisio'u claddu yn ei orffennol.

Digon i fagu blys am ragor, a'n paratoi ni ar gyfer yr ail gyfres yn hydref 2015.

"Ro'n i'n awyddus i fwrw ymlaen gyda'i stori fe. 'Ro'n i'n moyn dechrau dangos ochr arall i Mathias a'r tro 'ma ni'n darganfod lot mwy amdano fe," meddai Richard Harrington, yr actor sy'n chwarae rhan ein harwr DCI Tom Mathias.

"Mae lot o'r hanes ro'n i'n gwybod, yn gyfrinachol, wrth ffilmio'r gyfres gyntaf, ond nawr, wrth i ni ddod i wybod mwy amdano fo, mae pethau'n newid. Mae'r ffordd mae'r cymeriadau eraill yn ymateb iddo yn newid, a bydd y gwylwyr yn edrych arno o'r newydd hefyd."

Ac yn ymuno â Richard Harrington wrth i Y Gwyll ddychwelyd i'r sgrin, mae cast y gyfres gyntaf: Mali Harries, yn rhan DI Mared Rhys; Alex Harries fel DC Lloyd Ellis; Hannah Daniel fel DS Siân Owens; ac Aneirin Hughes fel y Prif Uwch-arolygydd Prosser.

Mae wythnosau bellach ers i DCI Tom Mathias droi ei gefn ar ei waith. Fe wnaeth yr achos diwetha' ei wthio i'r dibyn, a'i wthio i freichiau mam oedd yn galaru am ei merch. O fewn oriau roedd hithau hefyd yn farw. Gyda'i llofruddiaeth hi ar ei gydwybod, roedd dyfodol Mathias a'i yrfa yn yr heddlu mewn sefyllfa fregus iawn.

Gyda'i deimladau personol fel petai'n llywio ei ddyletswyddau proffesiynol, mae'n edrych fel petai ei yrfa ar ben. Ond nid dyna farn y Prif Uwch-arolygydd Prosser sy'n galw arno i ail afael â'i ddyletswyddau ac ymchwilio i achos o dân sydd wedi ei gynnau'n fwriadol mewn ffermdy anghysbell, gan anafu mam a'i phlentyn.

Wrth ymchwilio i'r achos, caiff Mathias a'i dîm eu tynnu i galon cymuned sydd wedi ei rhwygo'n ddarnau gan hen elyniaethu, trachwant a chenfigen. Ond pam mae'r achos yma, a thynged y fam a'i phlentyn, wedi denu Mathias yn ôl i'w waith, ac yn ôl oddi ar y dibyn? A yw'r ateb yn cuddio yn ei orffennol ei hun? Bydd rhai o'r cwestiynau yma'n cael eu hateb wrth i ni fynd o dan yr wyneb yn y bennod arbennig ar Ddydd Calan.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?